18 Medi 2023
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cael ei gynnal ar 21 Medi am 3pm ar-lein a bydd ar gael yma.
Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i rannu ein Hadroddiad Blynyddol gyda chi, sy'n rhan o gyfres o ddogfennau sy'n dweud wrthych am ein sefydliad, y gofal rydym yn ei ddarparu a'r hyn rydym yn ei wneud i gynllunio, darparu a gwella gofal iechyd i'n poblogaeth, er mwyn cwrdd â gofynion newidiol a heriau'r dyfodol.
Ymunwch â ni wrth i ni fyfyrio ar ein perfformiad, yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn 2022-2023 a sut rydym yn bwriadu gwella'r flwyddyn nesaf trwy edrych yn gyntaf ar ein Strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol newydd.
Ar ben hynny, anfonwch unrhyw gwestiynau sydd gennych i’r cyfeiriad e-bost canlynol: corporate.meetingcav@wales.nhs.uk erbyn 19 Medi 2023.
Rydym yn gobeithio gweld cymaint ohonoch â phosibl.