Neidio i'r prif gynnwy
Yr Athro. Meriel Jenney

Cyfarwyddwr Meddygol

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Meddygol

Mae Meriel wedi bod yn Feddyg Ymgynghorol mewn Oncoleg Bediatrig yn Ysbyty Plant Cymru ers 1996. Fe’i penodwyd i swydd Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ar ddechrau 2021 a hi yw’r Cyfarwyddwr Meddygol ar hyn o bryd.

Cyflawnodd Meriel ei hyfforddiant israddedig yn Sheffield a’i hyfforddiant ôl-raddedig yn Sheffield, Melbourne a Manceinion.  Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Harkness iddi hefyd i astudio yn UDA ym Mhrifysgol Minneapolis, Minnesota.

Ar ôl symud i Gaerdydd yn 1996, arweiniodd Meriel wasanaethau canser plant yng Nghymru am dros 2 ddegawd.  Mae wedi gweithio mewn uwch rolau gweithredol fel Cyfarwyddwr Bwrdd Clinigol ar gyfer byrddau clinigol Plant a Menywod a Diagnosteg a Therapiwteg Glinigol, ac yn rôl fwy strategol y Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Gwasanaethau Canser. Mae gan Meriel ddiddordeb ymchwil hirsefydlog yn y broses o drin canser ymhlith plant a dyfarnwyd Cadair anrhydeddus iddi gan Brifysgol Caerdydd yn 2019. 

Mae Meriel hefyd yn gweithio gydag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau oncoleg bediatrig yn Sierra Leone. 

 

Dilynwch ni