Neidio i'r prif gynnwy
Suzanne Rankin

Amdanaf i

Roedd Suzanne yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Ashford a St Peter yn flaenorol, ar ôl ymuno â’r ymddiriedolaeth fel Prif Nyrs yn 2010, cyn dod yn Brif Weithredwr yn 2014. 

Dechreuodd Suzanne ei gyrfa nyrsio a rheoli gyda’r Llynges Frenhinol, yng Ngwasanaeth Nyrsio Morol Brenhinol y Frenhines Alexandra, gan gymhwyso fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig yn 1990. Ar ôl mynychu Coleg Britannia y Llynges Frenhinol, gwnaeth Suzanne gomisiynu a pharhau i wasanaethu gartref a thramor yn cynnwys nifer o leoliadau gweithredol.    

Graddiodd gydag MA mewn Astudiaethau Amddiffyn yn dilyn hyfforddiant Advanced Command and Staff yn y Joint Services Command and Staff College yn 2005, ac fe’i penodwyd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn. Darparodd gymorth staff a chyngor i’r Cynghorydd Nyrsio Amddiffyn a’r Prif Feddyg ar strategaeth nyrsio, arweinyddiaeth a materion proffesiynol.   

Yn 2008, gadawodd Suzanne y Llynges Frenhinol i ddechrau ar yrfa yn y GIG ac ymunodd ag Awdurdod Iechyd Strategol y GIG Canol De Lloegr fel Dirprwy Brif Nyrs o fewn y Gyfarwyddiaeth Safonau Clinigol, cyn dechrau ar ei gyrfa yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ashford a St Peter.   

Mae Suzanne wedi darparu arweinyddiaeth strategol i dîm amlddisgyblaethol talentog ac amrywiol ynghyd â darparu gofal acíwt ac arbenigol i bobl yng ngogledd-orllewin Surrey a thu hwnt, gan gymryd camau i wella seilwaith a manteisio ar dechnoleg i gyflawni strategaeth yr Ymddiriedolaeth. 

Fel rhan o’r rôl hon, gwnaeth Suzanne arwain gwaith yr Ymddiriedolaeth fel partner allweddol ym Mhartneriaeth Iechyd a Gofal Integredig Gogledd-orllewin Surrey gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a lles, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cymunedau ffyniannus, cydberthnasau a chydnerthedd. Mae hefyd wedi bod yn allweddol yn cyd-greu’r diwylliant “iawn”, gan sicrhau y darperir gofal o’r ansawdd gorau posibl a chanolbwyntio ar ddysgu, datblygu a gwella’n barhaus

Dilynwch ni