Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn amlinellu'r gweithdrefnau ar gyfer cadw cleifion yn yr ysbyty, pan fo hynny'n angenrheidiol er eu hiechyd neu eu diogelwch eu hunain, neu i ddiogelu pobl eraill. Hefyd, mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth y gellir ei defnyddio i osod pobl o dan warcheidiaeth neu i ryddhau pobl o'r ysbyty i driniaeth dan oruchwyliaeth yn y gymuned.
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth Iechyd Meddwl a Galluedd Meddyliol yn cynghori'r Bwrdd am unrhyw feysydd o bryder yn ymwneud â chyfrifoldebau o dan Ddeddfwriaeth Iechyd Meddwl, a byddant yn rhoi sicrwydd:
Hefyd, bydd yn sicrhau bod deddfwriaeth berthnasol arall, yn enwedig y Ddeddf Hawliau Dynol (1998), y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) a'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, yn cael ei dilyn yn llawn ar gyfer pobl sy'n dod o dan Ddeddfwriaeth Iechyd Meddwl."
Caiff rôl lawn y Pwyllgor hwn ei hamlinellu yn ei Gylch Gorchwyl a'i Drefniadau Gweithredu.
Cynllun Gwaith y Pwyllgor
Cadeirydd y Pwyllgor: Ceri Phillips.
Prif Swyddog Gweithredol: Prif Swyddog Gweithredu.
Ysgrifenyddiaeth: Nikki Regan
Aelodau:
Dave Edwards
Michael Imperato
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod am 10am ar y dyddiadau canlynol. I fynd at bapurau'r Pwyllgor, dewiswch ddyddiad y cyfarfod perthnasol. Os hoffech fynd i gyfarfod fel arsyllwr, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nikki Regan ar 029 2183 6008 neu Nikki.Regan@wales.nhs.uk.
Dyddiadau cyfarfod 2018-19 | Dyddiadau cyfarfod 2019- 20 | Dyddiadau cyfarfod 2020-21 | Dyddiadau cyfarfod 2021-22 |
---|---|---|---|
Ewch i gofnodion wedi'u cadarnhau.
Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn cyflwyno'r gweithdrefnau ar gyfer cadw cleifion yn yr ysbyty os ystyrir hynny'n angenrheidiol naill ai ar gyfer eu hiechyd neu eu diogelwch eu hunain, neu i ddiogelu pobl eraill. Hefyd, mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth y gellir ei defnyddio i osod pobl o dan warcheidiaeth neu i ryddhau pobl o'r ysbyty i driniaeth dan oruchwyliaeth yn y gymuned.
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth Iechyd Meddwl yn dirprwyo'r broses ar gyfer ystyried rhyddhau cleifion o dan y Ddeddf i'r Is-grŵp Pŵer Rhyddhau. Bydd yr Is-grŵp hwn yn cyfarfod bod tri mis i ystyried p'un ai a yw'r prosesau rhyddhau yn y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn deg ac yn rhesymol, ac yn cael eu harfer yn gyfreithlon.