Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Ymddiriedolwyr

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei elusen ei hun, sef Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro. Yr Ymddiriedolwyr yw'r bobl sy'n gyfrifol, o dan ddogfen reoli'r elusen, am reoli a chadw trefn ar ei busnes. Maent yn atebol am reoli'r elusen a'i hasedau yn gywir a rhaid iddynt weithredu'n ddarbodus bob amser, er budd pennaf yr elusen a'i buddiolwyr. Hefyd, mae ganddynt ddyletswydd i sicrhau cydymffurfedd.
 
Nid yw cyrff gwasanaethau iechyd eu hunain yn elusennau. Dim ond yr eiddo sy'n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth at ddibenion elusennol yn llwyr sy'n elusen.
 
Mae ymddiriedolwyr corfforaethol yn rheoli'r cronfeydd elusennol hyn. Hynny yw, mae'r ymddiriedolwyr hefyd yn aelodau â phleidlais o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae Bwrdd y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn gweithredu ar ran yr ymddiriedolwr corfforaethol wrth weinyddu'r cronfeydd elusennol. Nid ydynt yn ymddiriedolwyr unigol eu hunain. Cynhelir cyfarfod o'r Ymddiriedolwyr o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
 
Hefyd, mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol Bwyllgor Cronfeydd Elusennol sy'n cyfarfod bob tri mis dan Gadeiryddiaeth Aelod Annibynnol o'r Bwrdd. Pwrpas y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol yw rhoi cyngor i'r ymddiriedolwr corfforaethol ar gyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldeb am gronfeydd elusennol a chyflawni cyfrifoldebau a ddirprwyir iddo gan yr ymddiriedolwr corfforaethol am reoli a chadw trefn ar Gronfeydd Elusennol. 
 
I fynd at bapurau'r Pwyllgor, dewiswch ddyddiad y cyfarfod perthnasol isod. Os hoffech ddod i'r cyfarfod fel arsyllwr, neu os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Nathan.Saunders2@wales.nhs.uk neu ffoniwch 029 21 836009. 
 
Cadeirydd:  Charles Janczewski
Prif Swyddog Gweithredol:  Ruth Walker
Ysgrifenyddiaeth:  Nathan Saunders
 
Aelodau: I'w cyhoeddi 

Dyddiadau cyfarfod 2018 - 19  Dyddiadau cyfarfod 2019 - 20 Dyddiadau cyfarfod 2020 -21 Dyddiadau cyfarfod 2021- 22

 

 

Gweld cofnodion wedi'u cadarnhau

Dilynwch ni