Mae cyfleuster storio beiciau dan do o flaen yr ysbyty. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cloi eich beic yn ddiogel cyn ei adael ar y safle.
Mae’r cynllun seiclo i’r gwaith hefyd ar gael i holl gydweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’r cynllun yn caniatáu i chi brynu beic ac ategolion yn ddi-dreth trwy siopau beiciau lleol neu ar-lein. Mae Seiclo i’r Gwaith yn gynllun aberthu cyflog sy’n eich galluogi i ledaenu cyfanswm y gost. Caiff cynllun Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ei reoli gan Vivup LINK sydd hefyd yn rhoi gostyngiadau i chi gan brif fanwerthwyr.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.