Fel rheol, mae disgwyl i chi wneud eich ffordd eich hun i'r ysbyty. Os ydych angen ambiwlans, mae'r broses fel a ganlyn.
Cleifion Newydd: pan fyddwch yn ymateb i'ch llythyr yn eich gwahodd i wneud apwyntiad, nodwch y byddwch angen ambiwlans. Yna rhoddir y rhif i chi ei ffonio i drefnu hyn eich hun.
Cleifion Dilynol: os ydych angen ambiwlans ar gyfer eich apwyntiad dilynol, bydd cydlynydd y clinig yn archebu hwn yn y clinig.
Os ydych chi'n derbyn Credyd Teulu, Cymorth Incwm, os oes gennych incwm isel neu'n hawlio rhai budd-daliadau eraill, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael help tuag at eich costau teithio pan ddewch chi i'r ysbyty. Os credwch y gallai fod gennych hawl i hawlio rhan neu'r cyfan o'ch treuliau, cyfeiriwch at y Canllawiau ar gyfer treuliau teithio. Bydd Swyddfeydd yr Arianwyr, sydd wedi'u lleoli ar draws safleoedd BIP, yn ad-dalu'r costau teithio.