Fitness 14 @ mae Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Canolfan Feddygol Caerdydd (CMC) wedi'i leoli ar brif safle YAC. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau hyfforddi a ffitrwydd, gan gynnwys pwll nofio 25m, ystafell ffitrwydd a neuaddau chwaraeon. Rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau Sbin, Pilates, Sesiwn Cylchol Codi Pwysau a Chydbwysedd Ioga yn wythnosol amser cinio a gyda’r nos.
Mae amryw o opsiynau aelodaeth a defnyddio'r cyfleusterau ar gael gan gynnwys ‘talu wrth ddefnyddio’ a thaliadau debyd uniongyrchol misol. Rydym yn cynnig gostyngiadau i weithwyr BIP Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Caerdydd. Mae croeso i westeion ddefnyddio'r cyfleusterau yn amodol ar amseroedd ac argaeledd.
Opsiynau Aelodaeth
Llogi Ystafell Gyfarfod
Dydd Llun i Ddydd Gwener - 6.30yb i 9yp
Penwythnos - 8yb i 6yp
Am fanylion llawn amseroedd agor, prisiau, cyfleusterau a dosbarthiadau a'r Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol, gweler ein Taflen Wybodaeth
Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol CMC
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
Ffôn: 02920 742440
E-bost: info@cmcsportsandsocialclub.co.uk
Gwefan: www.cmcsports.co.uk
Facebook: Cmc Ssc
Twitter: @CMCSportsSocial