Mae Hafan y Coed yn olau, yn helaeth ac yn groesawgar - ysbyty 'blaenllaw' yn wir.
Mae'n gartref i gasgliad amrywiol ac eclectig o gerfluniau, cerameg, ffotograffau, printiau, cerddi a phaentiadau y gellir eu gweld os ewch am dro o amgylch y mannau cyhoeddus. Comisiynwyd y gwaith celf gan artistiaid o bob lliw a llun, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a staff, ynghyd ag artistiaid sy'n dod i'r amlwg a rhai sydd wedi hen ennill eu plwyf.
Ceir gerddi gyda seddi cerfluniol allanol, murluniau, ac mae gwaith celf ychwanegol i'w weld ar y llawr cyntaf. Cymerwch amser i rannu eich meddyliau ar ôl ichi fod am dro a gadewch neges ar y Goeden Ddychymyg, sydd i'w gweld yn ardal y brif dderbynfa.
Mae mynedfa Hafan y Coed gyferbyn â mynedfa Sgwâr YALl.