Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Cludiant

Wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar Feddygfa newydd Rhydlafar, rydym yn cydnabod bod mynediad a thrafnidiaeth yn faterion pwysig i lawer o drigolion. Yn ystod yr ymgysylltu, dyma oedd un o'r pryderon a godwyd amlaf. 

Cydnabuwyd y gallai fod yn anodd i'r rhai sy'n byw y tu allan i Rydlafar gael mynediad at Rydlafar, felly daeth cynrychiolwyr o'r Bwrdd Iechyd, cydweithwyr yn y practis, Cynghorau Cymuned a Grŵp Preswylwyr ynghyd i drafod a chytuno ar sut y gellid goresgyn y broblem. Sicrhaodd y gwaith hwn na fyddai neb dan anfantais o ran cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. 

Cytunwyd y byddai'r Bwrdd Iechyd yn hwyluso gwasanaeth tacsi i'r unigolion hynny a oedd yn gweithredu o dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA) presennol y Bwrdd Iechyd. Bydd mynediad i'r gwasanaeth yn cael ei reoli gan y practis a bydd yn seiliedig ar 'gymhwysedd' am gyfnod cychwynnol o 12 mis i fesur y galw a bydd yn llywio datrysiad trafnidiaeth gymunedol tymor hirach. 

Mae'r canlynol yn disgrifio sut y bydd y gwasanaeth tacsi yn gweithio: 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â:  

Gwybodaeth Bwysig am Gludiant Cleifion 

1. Cysylltu â'r feddygfa

Pan fyddwch chi'n cysylltu â'r feddygfa, bydd y triniwr galwadau yn gofyn am eich pryder iechyd.

Asesiad gan y triniwr galwadau

Bydd y triniwr galwadau yn casglu’r wybodaeth ganlynol:

  • Natur eich pryder iechyd
  • A yw apwyntiad wyneb yn wyneb yn briodol, neu
  • Os yw llwybr amgen (heb fod wyneb yn wyneb) yn addas.

Os oes angen apwyntiad wyneb yn wyneb, bydd apwyntiad yn cael ei drefnu.

Rhaid i glaf sydd angen cludiant hysbysu'r triniwr galwadau.

Os oes angen cludiant, bydd yr apwyntiad yn cael ei drefnu ar gyfer yn hwyrach yn y bore neu ddechrau'r prynhawn.

Os NAD oes angen apwyntiad wyneb yn wyneb, fel gyda phob claf, efallai y cynigir y canlynol i chi:

  • Cynllun Mân Anhwylderau (gwasanaethau fferyllfa)
  • Ymgynghoriad dros y ffôn / fideo
  • Anfon lluniau drwy e-bost
  • Atgyfeiriad at wasanaeth arall
  • Optegydd neu ddeintydd

2. Adolygiad clinigol

Caiff pob apwyntiad wyneb yn wyneb ei adolygu gan glinigwr a fydd yn cysylltu â'r claf os oes llwybr amgen ar gael.

Noder

Os nad oes gennych unrhyw fath o gludiant, bydd y feddygfa yn trefnu tacsi i chi. Darperir cludiant ar gyfer angen clinigol, nid hwylustod.

Trefnu tacsi:

Trefnir eich casglu ar ddiwedd meddygfa’r bore neu ddechrau meddygfa’r prynhawn.

Trefnir teithiau grŵp lle bo modd.

Man codi Pentyrch fydd y safle bws (gyda chysgodfan) gyferbyn â siop Premier ar High Corner.

Byddwch yn cael gwybod faint o’r gloch y cewch eich casglu a manylion am eich taith adref, os oes angen.

Mae'r practis yn cofnodi'r defnydd o gludiant at ddibenion archwilio.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau bysiau ar gael yma: https://www.cardiffbus.com/ 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni