Neidio i'r prif gynnwy

Eich hawliau a'ch rhwymedigaethau:

 

Mae gennych nifer o hawliau o safbwynt eich data.  Mae gennych yr hawl i:

    • gyrchu a chael  copi o'ch data ar gais
    • gofyn i ni newid data anghywir neu anghyflawn
    • ei gwneud yn ofynnol i ni ddileu neu stopio prosesu eich data, er enghraifft lle nad oes ei angen mwyach, neu lle nad yw’n berthnasol i’r diben y cafodd ei brosesu’n wreiddiol
    • gwrthwynebu prosesu eich data lle mae’r sefydliad yn dibynnu ar ei fuddiannau cyfreithlon fel y sail gyfreithiol dros brosesu;
    • gofyn i ni stopio prosesu eich data am gyfnod os yw’r data’n anghywir

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu wneud cwyn, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data a restrir isod.  Os credwch nad ydym wedi cydymffurfio â’ch hawliau diogelu data, gallwch gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth (www.ico.gov.uk)

Mae gennych chi rai rhwymedigaethau hefyd o dan eich contract cyflogaeth/telerau ymgysylltu i ddarparu data i’r sefydliad. Yn arbennig, mae’n ofynnol i chi adrodd am absenoldebau o’r gwaith, ac efallai bydd yn ofynnol i chi roi gwybodaeth am faterion disgyblu.  Efallai bydd yn rhaid i chi hefyd roi data i ni er mwyn arfer eich hawliau statudol e.e. mae tystysgrif MATB1 yn ofynnol cyn y gallwch gael tâl mamolaeth.        Mae’n rhaid darparu data personol arall i ni, megis manylion cyswllt a thalu neu eich hawl i weithio yn y DU, er mwyn ein galluogi i ymrwymo i gontract cyflogaeth gyda chi.

Dilynwch ni