Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

 

Mae angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gadw a phrosesu data personol amdanoch i gyflawni ei fuddiannau cyfreithlon fel cyflogwr a darparwr gofal iechyd.  Rydym yn ymrwymedig i fod yn onest ac yn dryloyw ynghylch sut rydym yn casglu ac yn defnyddio’r data hwnnw, ac i gyflawni ein rhwymedigaethau diogelu data cyfreithiol.

Mae’r daflen hon yn dweud wrthych sut rydym yn prosesu eich Data Personol ac yn rhoi gwybod i chi am eich hawliau a’ch rhwymedigaethau o dan y Gyfraith Diogelu Data. Gallem newid yr Hysbysiad hwn o bryd i’w gilydd felly gwiriwch y ddogfen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau.

Mae'r Hysbysiad hwn yn berthnasol i gyflogeion presennol a blaenorol, staff sy’n ymwneud â’r Adran Staffio Dros Dro, gweithwyr, gwirfoddolwyr, deiliaid contractau Anrhydeddus a chontractwyr. Nid yw’n rhan o unrhyw gontract cyflogaeth, telerau ymgysylltu nac unrhyw gontract arall i ddarparu gwasanaethau.

 

Dilynwch ni