Mae Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn caniatáu ichi ddarganfod pa wybodaeth sy'n cael ei chadw ar gyfrifiadur ac mewn cofnodion â llaw. Gelwir hyn yn 'hawl unigolyn i weld data a gedwir amdanynt', ac mae'n berthnasol i'ch holl gofnodion iechyd.
Os ydych chi eisiau gweld eich cofnodion iechyd, ysgrifennwch at Adran Cofnodion Iechyd y BIP. Mae gennych hawl i naill ai edrych ar eich cofnodion neu i dderbyn copi. Byddwn yn ymateb o fewn mis ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn rhaid i ni ymestyn yr amser a gymerwn i ymateb.
Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd eich hawl i weld rhai manylion yn eich cofnodion iechyd yn gyfyngedig er eich budd eich hun, neu er budd hanfodol eraill. Dylech anfon pob cais i weld eich cofnodion iechyd at:
Rheolwr Cofnodion Iechyd
Adran Cofnodion Iechyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
Ffôn: 029 2074 6500
Ebost: CAV.AccessToRecords@Wales.NHS.UK