Mae'r GDPR yn rhoi cyfres o hawliau i bobl sy'n ymwneud â'u data personol. Mae rheolau penodol yn dibynnu ar sut mae data'n cael ei gasglu. Mae'r tabl canlynol yn disgrifio'r ffyrdd y gallwch arfer eich hawliau dros eich data personol. Paratowyd y tabl ar sail 'buddiannau cyfreithlon' y Bwrdd Iechyd.
GDPR Hawl Dinasyddion |
Yn gymwys? |
Nodiadau |
Yr hawl i gael gafael ar ddata |
Ydy |
Mae gennych hawl i weld eich data personol. |
Yr hawl i ddileu |
Ydy |
Mae gennych hawl i ofyn i'ch data gael ei ddileu. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol gan ddefnyddio canllawiau'r ICO ar Hawl i ddileu | ICO https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/right-to-erasure/ |
Yr hawl i gywiro gwallau |
Ydy |
Gallwch ofyn am newidiadau i wybodaeth anghywir. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol gan ddefnyddio canllawiau'r ICO ar Hawl i gywiro | ICO https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/right-to-rectification/ |
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu |
Ydy |
Mae gennych hawl i ofyn i wybodaeth gael ei phrosesu hyd yn oed pan na ellir ei dileu. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol gan ddefnyddio canllawiau'r ICO ar Hawl i gyfyngu ar brosesu | ICO. https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/right-to-restrict-processing/ |
Yr hawl i wrthwynebu prosesu |
Ydy |
Nid ydym yn defnyddio unrhyw brosesau gwneud penderfyniadau awtomataidd. Ar gyfer gwrthwynebiadau eraill, bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol gan ddefnyddio canllawiau'r ICO ar Hawl i wrthwynebu | ICO https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/right-to-object/ |
Yr hawl i gludadwyedd data |
Nac ydy |
Nid yw'r hawl hon yn gymwys oherwydd nad ydych yn darparu'r data yr ydym yn ei brosesu. Mae hyn yn unol â chanllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar yr hawl i gludadwyedd data | ICO. https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/right-to-data-portability/ Fodd bynnag, wrth arfer hawliau i gael mynediad at ddata, gallwn ddarparu data i chi mewn fformat electronig. |
Mae hawliau ychwanegol yn cynnwys:
• Yr hawl i gael gwybod am y rheoleiddiwr y gellir gwneud cwynion iddo (gweler isod);
• Yr hawl i gael gwybod am unrhyw drosglwyddiadau data dramor: ni fydd unrhyw ddata a gesglir gennych yn gadael y Deyrnas Unedig;
• Yr hawl i gael gwybod am ba hyd y cedwir data: cedwir eich data yn unol â'ch cofnodion staff.