Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ydym ni?

Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu’r nifer fwyaf o wasanaethau iechyd y GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn cynnal 10 ysbyty yn yr ardal ac yn darparu ystod eang o wasanaethau meddygol arbenigol, gan gynnwys rhai gwasanaethau deintyddol ac optometreg (gofal llygaid). Mae rhagor o wybodaeth am strwythur a gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd ar gael yma.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio'n agos iawn gyda darparwyr gofal iechyd eraill, yn enwedig y Gwasanaeth Ymarferwyr Cyffredinol. Gan fod practisau meddygon teulu yn sefydliadau ar wahân, byddwn yn egluro i chi yn y [daflen / dudalen we] hon sut rydym yn gweithio gyda'r partneriaid iechyd hyn a phartneriaid eraill.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn rhedeg y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol ar gyfer oedolion a'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed. Mae'r gwasanaethau hyn yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i'r rhai sy'n cael eu cadw yng Ngharchar Ei Mawrhydi Caerdydd, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi.

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gweithio i hyrwyddo a diogelu iechyd y cyhoedd ac yn cynnal ymchwil wyddonol. Efallai y bydd rhai gwasanaethau arbenigol a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd hefyd yn cael eu darparu ar gyfer cleifion sy'n byw mewn rhannau eraill o Gymru.

Dilynwch ni