Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r Bwrdd Iechyd yn wasanaeth cyhoeddus sy'n gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Gelwir y rhain yn aml yn 'wasanaethau statudol' oherwydd eu bod yn cael eu creu gan gyfreithiau (h.y. statud). Mae Senedd Cymru (ac weithiau Senedd San Steffan) yn creu cyfraith a rheolau sy'n egluro i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sut y dylent gydweithio i sicrhau lles y bobl.
Rydym yn rhannu gwybodaeth gydag amrywiaeth o sefydliadau partner yn y sector cyhoeddus lle caniateir rhannu gan y gyfraith. Er enghraifft, gellir rhannu data personol i gefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus canlynol:
Gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a gwasanaethau digartrefedd
Darparwyr tai
Darparwyr addysg
Mae mwy o wybodaeth ar y pwnc hwn isod.
Gofal Iechyd Preifat
Os byddwch yn dewis defnyddio gofal iechyd preifat, efallai y bydd angen i ni anfon eich data personol at y gweithiwr proffesiynol neu ei sefydliad y tu allan i'r GIG.
Ymchwilwyr ac Ystadegwyr
Gall academyddion sy'n gweithio i sefydliadau academaidd cyfreithlon, neu ar eu rhan, brosesu data personol pan fyddant yn cynnal ymchwil gyfreithlon o fewn y terfynau cyfreithiol a moesegol priodol.
Mae'r terfynau cyfreithiol hyn yn cynnwys:
Rheoleiddwyr ac Arolygwyr
Mae gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu rheoleiddio gan nifer o sefydliadau sydd ag ystod eang o bwerau cyfreithiol. Byddwn yn cydweithredu â'r cyrff hyn i ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol a gwallau. Mae gan rai o’r sefydliadau hyn y pŵer cyfreithiol i’n gorfodi i ddarparu data personol, megis Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (hiw.org.uk).
Gallwn hefyd rannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon os ydym o dan ddyletswydd gyfreithiol i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnom, neu er mwyn amddiffyn ein hawliau, eiddo, staff neu ddiogelwch ein cleifion, neu bobl eraill.
Darparwyr Systemau a Dyfeisiau Gwybodaeth
Efallai y bydd angen i ni hefyd rannu eich data gyda sefydliadau (gan gynnwys sefydliadau yn y sector preifat) sy'n darparu gwasanaethau i ni (er enghraifft ein darparwyr storio data neu systemau cwmwl). Bydd y rhain i gyd yn sefydliadau y mae gennym gontractau a mesurau cyfreithiol yn eu lle i ddiogelu eich hawliau unigol. Mewn llawer o achosion, ni fydd ganddynt fynediad uniongyrchol at eich data personol.
Pan fydd y BIP yn contractio â chyflenwr dyfais feddygol gofrestredig, gall y cyflenwr hefyd fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gadw data personol cyfyngedig penodol i fodloni ei rwymedigaethau fel gwneuthurwr.