Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn darparu’r pwynt cyswllt cyntaf yn y system gofal iechyd, a dyma ‘ddrws blaen’ y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae gofal sylfaenol yn cynnwys Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) (a elwir hefyd yn bractisau meddyg teulu), fferylliaeth gymunedol, gwasanaethau deintyddol ac optometreg (iechyd y llygaid). I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i Hafan - Gofal Sylfaenol Un (nhs.wales).
Mae gwasanaethau gofal cymunedol yno i helpu pobl sydd angen gofal a chymorth ychwanegol i fyw gydag urddas ac yn annibynnol yn y gymuned. Maent hefyd yn helpu i leihau derbyniadau i’r ysbyty drwy ganiatáu i bobl dderbyn gofal yn nes at adref.
Gall y gwasanaethau hyn ddarparu cymorth ar draws ystod o anghenion a grwpiau oedran, ond fel arfer maent yn darparu cefnogaeth i bobl hŷn, plant, y rhai sy’n byw gyda chyflyrau cronig, neu’r rhai sy’n nesáu at ddiwedd oes. Mae gyrfaoedd yn y Gymuned yn cynnwys gweithio mewn cartrefi gofal, hybiau gofal iechyd cymunedol, clinigau ac yng nghartrefi pobl.
Mae gofal canolraddol, a elwir hefyd yn ofal cymunedol ychwanegol, yn ddull iechyd a gofal cymdeithasol amlbroffesiynol. Mae’r gwasanaethau hyn yn helpu’r rhai sydd mewn perygl o argyfyngau iechyd a chymdeithasol, lleihau derbyniadau i’r ysbyty a darparu cymorth cam-i-lawr i hwyluso’r broses o ryddhau o’r ysbyty.
Y weledigaeth ar gyfer yr Academi yw annog amrywiaeth o weithwyr proffesiynol megis Meddygon Teulu, Fferyllwyr, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Nyrsys, Staff Cymunedol a phobl nad ydynt wedi cofrestru, i gydweithio i ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol rhagorol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i’r boblogaeth leol. Mae datblygu gweithlu amlbroffesiynol yn elfen hanfodol o ddarparu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru.
Bydd yr Academi yn hwyluso hyfforddiant ac addysg ar gyfer ystod eang o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio o fewn PCIC. Byddant yn sicrhau bod gan y gweithlu amlbroffesiynol fynediad at yr hyfforddiant, yr addysg a’r cymorth cysylltiedig angenrheidiol i ddarparu ystod eang o wasanaethau ar gyfer y boblogaeth cleifion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Mae 5 maes y bydd yr Academi yn eu cefnogi:
Wrth i Academi PCIC dyfu, byddwn yn parhau i gefnogi datblygiad iechyd a gofal integredig, gan ymgysylltu ag ystod eang o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r trydydd sector i ddarparu’r gwasanaeth gorau i gleifion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.