Neidio i'r prif gynnwy

Lle Gwych i Fyw a Gweithio

Dewiswch Caerdydd a’r Fro ar gyfer eich gyrfa yn y GIG

Pan fyddwch yn dewis Cymru ar gyfer eich gyrfa feddygol, byddwch yn dewis cyfleusterau gwych, gwasanaeth iechyd arloesol, amgylchedd cefnogol a chynlluniau hyfforddi wedi'u trefnu'n dda. Byddwch yn dewis gwlad amrywiol a fydd yn cynnig ffordd wych o fyw wrth i chi gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa feddygol.

Ymwelwch â'r wefan Dewis Doeth Cymru i weld sut gallwch chi weithio i Gymru a sut gall Cymru weithio i chi.

 

Pam Dewis Caerdydd?

Mae Caerdydd wir yn ddinas o wrthgyferbyniadau. Saif castell â 1900 mlynedd o hanes ochr yn ochr â Chanolfan Siopa fodern Dewi Sant a Stadiwm eiconig y Principality. 

Mae gan Gaerdydd ddigon o fannau gwyrdd a pharciau cyhoeddus, ac mae harddwch naturiol eithriadol fel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Penrhyn Gŵyr, Abertawe a hyfrydwch Bro Morgannwg yn ei hamgylchynu. 

I’r rhai sy’n chwilio am ddiwylliant, ceir mynediad rhwydd at Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Werin Cymru a Chanolfan y Mileniwm, cartref Opera Cenedlaethol Cymru. 

Mae’r farchnad dai yn weddol resymol, ac mae ein hysgolion yn cynnig addysg a chyfleusterau o safon uchel. 

Gydag amrywiaeth enfawr o bethau cyffrous i’w gwneud a’u gweld, mae Caerdydd yn cynnig y cyfan mewn gwirionedd. 

Dysgwch fwy am fyw yng Nghaerdydd 

Bro Morgannwg

Mae Bro Morgannwg, sydd wedi'i lleoli i'r gorllewin o Gaerdydd, yn cynnig cymysgedd o fryniau tonnog, trefi a phentrefi dymunol, a morlin naturiol dramatig sy'n cynnwys rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg. 

 

Dysgwch fwy am Fro Morgannwg

Dilynwch ni