Mae staff gwasanaethau domestig yn gweithio mewn meysydd clinigol ac anghlinigol ledled y GIG. Maent yn gwneud y gwaith pwysig iawn o sicrhau bod pob ardal yn lân ac yn ddiogel.
Mae gweithwyr domestig yn atal y risg o heintiau ac yn sicrhau nad ydynt yn lledu, yn enwedig yn y mannau hynny lle bydd aelodau o staff yn gofalu am gleifion. Mae glendid yn hynod o bwysig a chymerir camau bob dydd i gadw popeth yn lân. Mae llawer o gynorthwywyr gwasanaethau domestig yn dod wyneb yn wyneb â chleifion, felly bydd angen sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid sylfaenol arnynt. Gall hyn helpu i sicrhau bod profiad y claf yn fwy dymunol.
Mae staff domestig yn gweithio mewn nifer o leoliadau gwahanol yn y GIG, mewn cyd-destunau clinigol ac anghlinigol. Mae’n debygol y byddant yn gweld cleifion, gan ddibynnu ar ble maent yn gweithio. Gallai goruchwylwyr ac arweinwyr tîm ddod wyneb yn wyneb â chleifion o bryd i’w gilydd. Mae’n bosibl na fydd rheolwyr yn gweld cleifion yn aml, os o gwbl.
Mae gweithwyr domestig (neu gynorthwywyr gwasanaethau domestig) yn gwneud tasgau glanhau y bydd angen eu gwneud bob dydd neu bob wythnos. Gall y tasgau hyn gynnwys: