Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Ddeintyddol Gymunedol

Mae Nyrs Ddeintyddol Gymunedol yn gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau cymunedol, gan ddarparu gofal deintyddol hanfodol i unigolion a allai gael trafferth cael mynediad at glinigau deintyddol traddodiadol. Mae hyn yn aml yn cynnwys cefnogi plant mewn clinigau, yn ogystal ag ymweld â chleifion mewn cartrefi gofal neu yn eu cartrefi eu hunain. Maent yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo iechyd y geg ymhlith grwpiau agored i niwed, gan gynnwys y rhai ag anableddau neu anghenion meddygol cymhleth, gan helpu i sicrhau bod pawb yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt.

Mae'r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol yn darparu gofal deintyddol i grwpiau cleifion agored i niwed yn y gymdeithas a allai fel arall ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl cael triniaeth ddeintyddol ac mae gweithio fel Nyrs Ddeintyddol Gymunedol yn rhan hanfodol o'r gwasanaeth hwn.

Dilynwch ni