Mae Daniel yn rheoli Ward Adsefydlu Iechyd Meddwl sy’n gofalu am oedolion sydd â diagnosis sylfaenol o anhwylder seicotig.
Mae’r tîm nyrsio a gofal iechyd y mae Daniel yn gweithio ochr yn ochr â nhw yn darparu cymorth i gleifion ddatblygu annibyniaeth o ran sgiliau gweithredol a rheoli eu hiechyd meddwl wrth archwilio eu potensial galwedigaethol.
Mae Daniel yn darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth i sicrhau bod asesiadau adsefydlu cadarn a chynlluniau triniaeth yn cael eu darparu, tra’n cynnal gofal o safon uchel.
Gweithiodd Daniel fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd am ddwy flynedd cyn symud ymlaen i nyrsio.
Cwblhaodd Radd Baglor Anrhydedd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn 2015, ac ers hynny mae wedi ennill profiad ar draws Gwasanaethau Cymunedol, Niwroseiciatreg, Dibyniaeth ac Acíwt.
Ers ymgymryd â rôl Dirprwy Reolwr Ward yn BIP Caerdydd a’r Fro, mae Daniel hefyd wedi cael cynnig Diploma Lefel 4 wedi’i ariannu’n llawn mewn Arwain a Rheoli.
“Rwy’n falch o alw fy hun yn nyrs ac mae’n fraint gweithio ochr yn ochr â’r gweithwyr proffesiynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n gwneud ein gwasanaeth yn rhagorol.
Pan fyddaf yn dod i’r gwaith, rwy’n cael fy amgylchynu gan bobl gyfeillgar, ysbrydoledig sy’n deall gwerth diwylliant cadarnhaol pan ddaw i les staff a chleifion.”
“Alla i ddim dychmygu rôl arall i fy hun heblaw am nyrsio lle byddwn i’n cael y lefel yma o hyfforddiant, profiad a chefnogaeth.”