Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Glinigol Arbenigol

Image of Tara in her nursing uniform

Mae Tara wedi bod yn gweithio fel Nyrs Glinigol Arbenigol Hepatoleg Arweiniol yn BIP Caerdydd a’r Fro ers 21 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol. 

Ar hyn o bryd, mae’n darparu clinigau dan arweiniad nyrsys gan ddefnyddio sgiliau gwneud penderfyniadau datblygedig i asesu, archwilio, rhoi diagnosis a rhagnodi/trin clefyd yr afu. Mae hi hefyd yn rheoli tîm o nyrsys sy’n darparu clinigau cyffuriau ac alcohol cymunedol a chlinigau mewn carchardai, gyda’r nod o ddileu Hepatitis Feirysol yn y gymuned. 

Mae Tara wedi cwblhau cyrsiau mewn meysydd sy’n berthnasol ac yn ddiddorol iddi hi. Cwblhaodd ei Gradd Meistr mewn Uwch Ymarfer Nyrsio gyda Phrifysgol Caerdydd yn 2017 tra’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. 

“Fel Nyrs Glinigol Arbenigol, mae’r hyn rwy’n ei ddysgu wedi bod yn glinigol iawn. Fodd bynnag, rwyf bellach mewn sefyllfa lle mae fy nysgu, trwy arweinyddiaeth, yn fwy strategol.” 

“Mae bod yn nyrs yn BIP Caerdydd a’r Fro wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi. Rwyf wedi dod i gysylltiad â’r fath gymhlethdodau mewn gofal.  Mae wedi rhoi’r cyfle i mi weithio gyda’r bobl fwyaf ysbrydoledig, deallus a brwdfrydig. 

Yn bwysicach fyth, mae wedi rhoi’r cyfle i mi weithio gyda chleifion mor arbennig sy’n fy herio a’m hysbrydoli bob dydd.” 

“Pe bai’n rhaid i mi wneud y cyfan eto, byddwn yn dal i ddewis bod yn nyrs. Mae bod yn rhan o fywydau pobl pan fyddant ar eu mwyaf bregus a gallu gwneud gwahaniaeth yn gymaint o fraint na ddylid byth ei chymryd yn ganiataol. Mae’n dal i fy herio, a dydych chi byth yn gorffen dysgu a chael eich ysbrydoli.” 

Dilynwch ni