Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn darparu gwasanaethau gofal iechyd lleol i bobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a’r Bwrdd yw’r prif ddarparwr gwasanaethau arbenigol i bobl yn ne Cymru, ac ar gyfer rhai gwasanaethau, Cymru gyfan a’r DU yn ehangach.

Mae gennym ystod eang o swyddi nyrsio ar gael ar draws y Bwrdd Iechyd ac rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â ni. Mae’r meysydd arbenigol yn cynnwys Iechyd Meddwl Oedolion, Adsefydlu’r Asgwrn Cefn a Chardiothorasig. Rydym yn falch o allu creu amgylchedd cefnogol i’n staff ddatblygu a ffynnu.

Pam dewis Caerdydd a’r Fro? 

  • Rydym yn sefydliad addysgu ac ymchwil mawr sydd â chysylltiadau agos â’r Prifysgolion, a gyda’n gilydd rydym yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o’n gweithlu. 

  • Rydym  yn darparu cyfran fawr o’r gweithgarwch ymchwil yng Nghymru ac yn falch o fod ar y rheng flaen o safbwynt triniaethau a therapïau newydd sy’n ddyfeisgar ac yn arloesol. 

  • Rydym yn falch o allu creu amgylchedd cefnogol i’n staff ddatblygu a ffynnu. 

  • Rydym yn aelodau o sefydliad uchel ei bri Florence Nightingale Foundation, sy’n cynnig dewis eang o gyfleoedd dysgu a datblygu i nyrsys ar bob lefel. 

Gallwch ddarganfod mwy am Gaerdydd a’i hardaloedd cyfagos trwy glicio yma

Image of Madhu in his theatre scrubs
Ymarferydd Nyrsio Theatr

Madhu Raut yw’r Dirprwy Arweinydd Tîm ar gyfer Theatrau Offthalmig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Uwch Ymarferydd Nyrsio

Dechreuodd Siji Salumkutty ei yrfa nyrsio yn 1994 ar ôl cwblhau hyfforddiant yn Kerala, India. Mae bellach yn gweithio fel Uwch Ymarferydd Nyrsio mewn Gofal Sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Close up image of Daniel in nursing uniform
Nyrs Iechyd Meddwl

Mae Daniel yn rheoli Ward Adsefydlu Iechyd Meddwl sy’n gofalu am oedolion sydd â diagnosis sylfaenol o anhwylder seicotig. 

Image of Tara in her nursing uniform
Nyrs Glinigol Arbenigol

Mae Tara wedi bod yn gweithio fel Nyrs Glinigol Arbenigol Hepatoleg Arweiniol yn BIP Caerdydd a’r Fro ers 21 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol. 

Nyrsio Mewn Practis Cyffredinol

Gan mai y nyrs sy'n gyfrifol am y gofal a ddarperir yn y practis, mae angen i nyrsys practis cyffredinol arddangos sgiliau meddwl beirniadol, gwneud penderfyniadau a’r gallu i  reoli cleifion.

Dilynwch ni