Mae Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau yn rhan hanfodol o dîm amlddisgyblaethol y theatr lawdriniaethau, ac maent yn rhoi gofal ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf yn ystod anesthesia, llawdriniaeth a gwella, ac ymateb i anghenion corfforol a seicolegol y cleifion.
Mae swyddi ymarferwyr yr adran lawdriniaethau yn unigryw. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â llawfeddygon, anesthetyddion a staff gofal iechyd eraill mewn tîm lle mae angen i bawb gydweithio’n agos. Mae’r theatr lawdriniaethau yn lle diddorol dros ben i weithio ynddi.
- Cynllunio a blaenoriaethu gofal ac anghenion y claf a gwerthuso eu hymateb i ddarparu gofal o’r safon uchaf.
Sicrhau diogelwch ac urddas y cleifion bob amser, a bod eu hanghenion yn cael eu bodloni trwy weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill.
- Trosglwyddo gwybodaeth gymhleth a manwl i aelodau eraill y tîm neu staff mewn meysydd clinigol eraill, yn brydlon, yn glir ac yn gryno er mwyn bodloni anghenion y claf, yn enwedig yn ystod sefyllfaoedd brys.
- Cyfrifol am ddefnyddio cyfarpar anesthetig, llawfeddygol a gofal dwys cymhleth mewn ffordd ddiogel.
- Sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer pob llawdriniaeth, gan gynnwys gwirio a pharatoi hambyrddau offerynnau llawfeddygol ac offer arall
- Pasio offerynnau i lawfeddygon o fewn maes di-haint