Mae staff gwyddor gofal iechyd sy’n gweithio ym maes y gwyddorau ffisiolegol yn ymchwilio i sut mae organau a systemau’r corff yn gweithio er mwyn rhoi diagnosis o annormaleddau, dod o hyd i ffyrdd o adfer swyddogaethau’r organau a’r systemau hyn a / neu leddfu ar ddifrifoldeb anableddau’r claf.
Wrth wneud hynny maent yn rhyngweithio wyneb yn wyneb â chleifion mewn ystod o feysydd. Gweler isod y manylion am yrfaoedd ym maes y gwyddorau ffisiolegol.
Yn y maes hwn, mae staff gwyddor gofal iechyd yn defnyddio offer arbenigol, technolegau datblygedig ac ystod o wahanol ddulliau yn eu gwaith i weld sut mae systemau yn y corff yn gweithio. Gallant gyfarwyddo a hefyd ddarparu ymyriadau therapiwtig a gofal a thriniaeth hirdymor.