Neidio i'r prif gynnwy

DFN Project Search

Mae Project Search yn rhaglen interniaeth a gefnogir ar gyfer oedolion ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn sefydliad Project SEARCH ers 2021 ac mae’n cynnig interniaethau a gefnogir i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ar draws gwahanol adrannau gan gynnwys fferylliaeth, arlwyo, y switsfwrdd ac ystadau. Mae interniaethau a gefnogir wedi’u cynllunio i ddarparu llwybr amgen i’r gweithlu. 

Mae llawer o bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn ei chael hi’n anodd trosglwyddo i’r gweithle ar ôl gadael yr ysgol. Mae’r fenter hon yn helpu pobl ifanc i fagu hyder a sicrhau cyflogaeth ystyrlon, â thâl.

Bob blwyddyn, mae’r Bwrdd Iechyd yn derbyn mwy o bobl ifanc ar y prosiect. Mae lleoliadau gyda’r Bwrdd Iechyd yn cynnwys gweithio mewn 3 maes gwahanol yn y sefydliad am 10-12 wythnos ar y tro i gael ystod o brofiadau mewn gwahanol feysydd.

Mae’r myfyrwyr yn dechrau ac yn gorffen eu dydd gyda’u tiwtor coleg yn yr ystafell ddosbarth, ac yn treulio gweddill yr amser allan ar leoliad yn dysgu sgiliau sy’n ymwneud â’r swydd tra’n cael eu cefnogi gan y rheolwr lleoliad a hyfforddwr swyddi profiadol a fydd ar y safle bob amser.

Bydd angen i bobl ifanc a hoffai gymryd rhan mewn lleoliad gwaith yn y Bwrdd Iechyd wneud cais drwy eu hysgol. Os yw’r person ifanc wedi’i gofrestru ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gall wneud cais am y prosiect drwy ei Ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Byddai angen iddynt hysbysu eu harweinydd addysg priodol i fynegi diddordeb gyda’r Awdurdod Addysg i wneud cais am le. Cyngor Caerdydd neu Gyngor Bro Morgannwg fyddai hwn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o fod yn gyflogwr sy’n ystyriol o anabledd. Darllenwch fwy am nodau’r Bwrdd Iechyd i gyflawni gweithlu cynhwysol yn shapingourfuturewellbeing.com

I gael rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith a chyfleoedd eraill i bobl ifanc, ewch i’n tudalen profiad gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am DFN Project SEARCH, ewch i’w gwefan.

Dilynwch ni