Neidio i'r prif gynnwy

Ymarferydd Anesthetig

Mae Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau yn rhan hanfodol o dîm amlddisgyblaethol y theatr lawdriniaethau, ac maent yn rhoi gofal ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf yn ystod anesthesia, llawdriniaeth a gwella, ac ymateb i anghenion corfforol a seicolegol y cleifion.

Mae swyddi ymarferwyr yr adran lawdriniaethau yn unigryw. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â llawfeddygon, anesthetyddion a staff gofal iechyd eraill mewn tîm lle mae angen i bawb gydweithio’n agos. Mae’r theatr lawdriniaethau yn lle diddorol dros ben i weithio ynddi. 

  • Cynllunio a blaenoriaethu gofal ac anghenion y claf a gwerthuso eu hymateb i ddarparu gofal o’r safon uchaf.
  • Trin cleifion nes eu bod wedi gwella o effeithiau anestheteg nes y gellir eu rhyddhau i'r wardiau
  • Trosglwyddo gwybodaeth gymhleth a manwl i aelodau eraill y tîm neu staff mewn meysydd clinigol eraill, yn brydlon, yn glir ac yn gryno er mwyn bodloni anghenion y claf, yn enwedig yn ystod sefyllfaoedd brys.
  • Cyfathrebu â chleifion mewn ffordd sympathetig er mwyn lleddfu pryderon a datblygu perthynas, er mwyn ennyn hyder yn eu gofalwyr.
  • Sicrhau diogelwch ac urddas y cleifion bob amser, a bod eu hanghenion yn cael eu bodloni trwy weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill.

Dilynwch ni