Nid yw ceisiadau i NHS Jobs mor syml â chyflwyno CV, felly caniatewch amser a lle i chi’ch hun i gwblhau eich cais yn drylwyr.
Mae proses NHS Job yn ddienw, sy’n golygu na fydd y rheolwr sy’n penodi yn gweld eich manylion personol o gwbl, gan gynnwys eich enw. Mae’r cais yn cael ei farnu ar sail pa mor dda rydych chi’n cyd-fynd â’r hyn y gofynnwyd amdano yn y disgrifiad swydd yn unig.
Darllenwch y disgrifiad swydd yn drylwyr i gael dealltwriaeth dda o’r rôl a’r hyn y mae’n ei olygu, gan gynnwys manyleb y person. Efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â’r rheolwr sy’n penodi a threfnu amser i gael sgwrs ffôn i drafod y swydd.
Sicrhewch eich bod yn llenwi pob rhan o’r ffurflen gais. Y wybodaeth ategol yw eich cyfle i werthu eich hun a’ch sgiliau. Cadwch fanyleb y person a’r disgrifiad swydd wrth law i gyfeirio’n ôl atynt pan fyddwch yn ysgrifennu’r cais. Dylech geisio cyfateb eich gwybodaeth ategol â’r hyn y gofynnir amdano. Dylech deilwra’r adran gwybodaeth ychwanegol fel bod eich profiad yn berthnasol i’r disgrifiad swydd a defnyddiwch enghreifftiau, lle bo’n bosibl, sy’n dangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf. Nid yw’n ddigon dweud “Rwyf wedi gwneud hyn”, felly cymerwch eich amser i gyfleu eich pwyntiau a byddwch yn gryno.
Gwiriwch fwy nag unwaith nad oes unrhyw gamgymeriadau sillafu neu ramadeg yn eich cais. Ceisiwch beidio â defnyddio acronymau – ni fydd pawb yn deall y talfyriad.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch drwy gydol y broses recriwtio. Fel cyflogwr cynhwysol, byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Cyflwynwch eich cais cyn y dyddiad cau. Gallwch wirio eich cynnydd unrhyw bryd ar eich cyfrif TRAC.
Os cewch eich gwahodd am gyfweliad, mae paratoi yn allweddol. Gall ymchwilio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac ailedrych ar yr hysbyseb swydd a’r disgrifiad swydd fod o help.
Os gwelwch swydd arall yr hoffech wneud cais amdani, bydd angen i chi gwblhau cais ar wahân ar gyfer pob rôl wahanol. Bydd manylion eich cais yn cael eu storio ar eich cyfrif, felly nid oes angen i chi ailgyflwyno’r manylion hyn yn y dyfodol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’n tîm: workforcerecruitment.cav@wales.nhs.uk