Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio Mewn Practis Cyffredinol

I fod yn nyrs ardal, bydd angen i chi fod yn oedolyn cofrestredig, plantanabledd dysgu neu nyrs iechyd meddwl.

Gan mai y nyrs sy'n gyfrifol am y gofal a ddarperir yn y practis, mae angen i nyrsys practis cyffredinol arddangos sgiliau meddwl beirniadol, gwneud penderfyniadau a’r gallu i  reoli cleifion. Bydd cwmpas cyffredinol eu rôl yn dibynnu ar anghenion y cyflogwr a'r hyfforddiant ac addysg sydd ei angen yn adlewyrchu hyn. Er enghraifft, efallai y bydd cyflogwr angen i nyrs bractis uwch gyda hawliau presgripsiynu annibynnol i gefnogi meysydd iechyd fel atal genhedlu a rheoli cyflyrau hir dymor fel asthma a chlefyd siwgr.

O ddydd i ddydd mae angen i nyrsys practis cyffredinol  ddefnyddio amrywiaeth eang o sgiliau, gan gynnwys:

  • gwrando a chyfathrebu
  • datrys problemau
  • gwneud penderfyniadau doeth
  • cynnig cyngor

Mae’r rôl yn un amrywiol:

Mae nyrs practis iau (band 5) yn ymgymryd â dyletswyddau ystafell driniaeth (gofal clwyfau, tynnu gwaed, dyfrhau glust, monitro pwysedd gwaed) a bydd yn ennill sgiliau mewn imiwneiddiadau teithio plant ac a sytoleg serfigol.

Bydd nyrs band 6 ymgorffori'r holl sgiliau blaenorol, ond bydd yn ymgymryd â chlinigau rhannu gofal gyda chefnogaeth y meddyg teulu; h.y. rheoli clefydau cronig megis clefyd siwgr, gofal anadlol ac epilepsi. Yna, efallai y bydd rhai nyrsys yn gwella eu sgiliau gan ymgymryd â modiwlau diploma mewn rheoli clefydau cronig neu fân salwch.

Bydd nyrs band 7 yn ymgymryd â chlinigau a arweinir gan nyrsys a bydd disgwyl fod gan y nyrs gymhwyster BGwydd neu'n gweithio tuag at gymhwyster BGwydd. Gall y rhain gynnwys rheoli clefydau cronig, monitro INR, mân salwch ac mae ganddynt y cymhwyster ychwanegol o presgripsiynu annibynnol.

Bydd yn rhaid i nyrs band 8 sy’n gweithio mewn practis cyffredinol ymgymryd â’r cymhwyster Ymarferydd Nyrsio Uwch MGwydd a bydd yn gweithio fel ymarferydd annibynnol.

Dilynwch ni