Neidio i'r prif gynnwy

Arlwywr sy'n seiliedig ar ward

Mae arlwywr sy'n seiliedig ar ward yn gweithio gyda thîm y ward i ddatblygu a chynnal y ward i gleifion. Mae’n darparu gwasanaeth cludo bwyd a diodydd cwrtais ac effeithlon o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion cleifion. 

Mae’r arlwywr sy'n seiliedig ar ward  yn gweithio ar ei ben ei hun ar y ward. Bydd y gweinydd yn gweini brecwast, cinio, swper a byrbrydau mewn amgylchedd prysur dros ben.  Bydd y dyletswyddau yn cynnwys gwirio tymheredd bwyd ac oergelloedd gan gofnodi’r tymheredd cyn gweini’r bwyd i gleifion, a glanhau a chynnal ceginau, cypyrddau, celfi gosod ac offer.

Mae gweinydd bwyd yn gyfrifol am y canlynol:

  • Llenwi jygiau dŵr cleifion dair gwaith y dydd i sicrhau eu bod yn yfed digon o ddŵr
  • Darparu bwyd a diodydd poeth ac oer i gleifion trwy’r dydd
  • Casglu archebion bwyd cleifion
  • Paratoi hambyrddau cleifion i weini bwyd
  • Dilyn system hambyrddau coch lle y bo’n briodol
  • Gweini bwyd i gleifion ar adegau dynodedig
  • Deall anghenion deietegol cleifion
  • Cofnodi tymheredd bwyd ar y ward
  • Darparu byrbrydau i’r cleifion priodol
  • Golchi llestri’r holl gleifion
  • Cael gwared ar wastraff mewn modd priodol
  • Cynnal lefelau uchel o hylendid bob amser

Dilynwch ni