Neidio i'r prif gynnwy

Ein Cyflawniadau Safon Iechyd Corfforaethol

Y Safon Aur

Yn dilyn dau ddiwrnod dwys o asesu ym mis Medi 2017, ail-ddilyswyd y BIP ar gyfer Safon Iechyd Corfforaethol (CHS) Aur, y marc ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a llesiant.

Roedd adborth yr Aseswyr i ni yn rhagorol, gan dynnu sylw at bositifrwydd a brwdfrydedd staff yn ystod eu hymweliad a arweiniodd at iddynt gael eu syfrdanu gan lawer o’u canfyddiadau. Dywedon nhw fod yr asesiad yn wahanol i unrhyw beth roedden nhw wedi'i brofi o'r blaen a'u bod nhw'n cydnabod gwelliannau enfawr ers ein hasesiad llawn diwethaf yn 2009. Ar y sail hon, maen nhw wedi gofyn a fyddem ni'n sefydliad arddangos yn nigwyddiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu â gweithwyr, ac awgrymwyd y dylem fod yn rhannu ein harfer yn eang.

Amlygodd yr aseswyr nifer o'n cryfderau allweddol, gan gynnwys:

  • Cyfranogiad undebau - fe wnaethant ddisgrifio cydweithredu llawn a gweithio mewn partneriaeth i raddau na welsant erioed yn unman arall. Roeddent yn teimlo bod gan yr undebau berchnogaeth lawn ar yr agenda ac roeddent yn ymgysylltu â'r bwrdd iechyd ym mhob agwedd ar iechyd a llesiant. Talwyd sylw arbennig i ymgysylltiad bydwreigiaeth â gwaith yr RCN ar iechyd a llesiant, ynghyd ag arweiniad yr Undebau ar ddatblygu’r gwaith ar y menopos.
  • Angerdd, brwdfrydedd ac ymrwymiad - roeddent yn cydnabod bod y Grŵp Cynghori ar Iechyd a Llesiant yn gosod y weledigaeth, ac yna fod y Byrddau Clinigol ac adrannau corfforaethol yn cymryd perchnogaeth am gyflenwi arloesol yn lleol, gan ddewis beth maen nhw'n ei wneud a sut maen nhw'n ei wneud. Clywsant straeon gwych am ymgysylltu â mentrau iechyd a llesiant o sawl safle. Fe wnaeth staff hyd yn oed fynd i chwilio am yr aseswyr i rannu straeon a phrofiadau dros y ddau ddiwrnod.
  • Gwerthoedd ac ymddygiadau - clywodd yr aseswyr gynrychiolwyr undeb yn mynegi'r farn mai'r rhain bellach yw'r sylfaen ar gyfer llawer o'n gweithgaredd llesiant, ac roeddent yn wirioneddol gadarnhaol am yr effaith y maent yn ei chael ar staff.
  • Arlwyo - tynnwyd sylw at y gwasanaeth hwn oherwydd eu datblygiadau enfawr yn ddiweddar. Creodd yr ystyriaeth a roddwyd i bob agwedd ar ddarpariaeth arlwyo argraff fawr ar yr aseswyr.
  • Iechyd Galwedigaethol - amlygwyd ei fod wedi gwneud cynnydd sylweddol ers yr asesiad diwethaf, gan gynnwys barn yr aseswyr ei fod bellach wedi integreiddio'n llawn ar draws gweithgaredd y bwrdd iechyd.
  • Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) - roedd yr aseswr a fynychodd YALl wedi ei blesio'n fawr iawn â'r graddau yr oedd iechyd a llesiant staff wedi'u hintegreiddio i ddyluniad Hafan y Coed, Oriel HeARTh a'r Orchard.

Nododd yr aseswyr hefyd nifer o feysydd i'w datblygu, gan gynnwys:

  • Yr angen i fod yn well wrth rannu ein cyflawniadau o fewn a thu hwnt i'r BIP. Maent yn awyddus bod llawer o'r enghreifftiau y clywsant amdanynt yn cael eu rhannu gyda'r Bwrdd, gan ddisgrifio buddion i unigolion, timau a'r sefydliad cyfan.
  • Mwy o'r un peth, tra'n sicrhau ein bod yn targedu grwpiau efallai ein bod wedi methu â'u cyrraedd yn y gorffennol fel staff ystadau, porthorion, staff arlwyo a staff allan yn y gymuned ac ati. Maent am inni sicrhau bod y grwpiau hynny wedi'u grymuso mwy a bod ganddynt fynediad at gyfleoedd.
  • Llesiant meddyliol - roedd maint y gwaith ataliol ac adweithiol rydyn ni'n ei wneud wedi creu argraff arnyn nhw, ond maen nhw'n meddwl y gallwn ni wneud mwy.
  • Ymgysylltu meddygol - maent am weld staff meddygol yn cymryd rhan yn yr agenda iechyd a llesiant yn y dyfodol, fel staff eraill.

Mae llawer o brosiectau sy'n cyfrannu at lwyddiant y CHS Aur yn rhannol oherwydd haelioni rhoddwyr, gan gynnwys aelodau'r loteri staff, sy'n cyfrannu at Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro BIP ei hun. Ein diolch i gadeirydd y Panel Gwneud yn Well/Panel Loteri Staff, Mike Jones, ac aelodau'r Panel; maent wedi bod yn allweddol wrth ddarparu cyllid a hefyd adborth yn ystod cam dylunio llawer o'n prosiectau iechyd a llesiant.

Bydd y Grŵp Llywio Iechyd a Llesiant nawr yn llunio cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r holl feysydd i'w gwella, ac i sicrhau parhad ein meysydd cryfder.

Dyfarnwyd y Wobr Aur yn wreiddiol yn 2009, ac roedd yn cydnabod ymrwymiad cryf BIP i iechyd a llesiant ei weithwyr, arfer da a gweithio ar dargedau y prif broblemau afiechyd y gellir eu hatal, a blaenoriaethau Her Iechyd Cymru.

Y Safon Platinwm

Mae'r BIP hefyd yn dal y Safon Platinwm. Mae hyn yn wahanol o ran ei natur ac mae'n canolbwyntio'n bennaf ar ein gweithgaredd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

 

 

 

Dilynwch ni