Neidio i'r prif gynnwy

Undebau Llafur

Undebau Llafur a Sefydliadau Staff

Mae’r BIP yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur a sefydliadau proffesiynol cydnabyddedig, ac mae’n eich annog yn weithredol i ymuno ag unrhyw undeb llafur neu gorff proffesiynol o’ch dewis (yn amodol ar unrhyw reolau aelodaeth ar gyfer y sefydliad hwnnw a allai fod yn gymwys).

Mae Cytundeb Partneriaeth a Chydnabyddiaeth y BIP yn nodi egwyddorion gweithio mewn partneriaeth a chyfrifoldebau’r sefydliad, cynrychiolwyr staff a rheolwyr. Mae’r Cytundeb yn rhestru’r undebau llafur a’r sefydliadau staff sydd wedi’u cydnabod yn swyddogol gan y BIP. Ymhlith y rhain mae:

British Dental Association logo Cymdeithas Ddeintyddol Prydain
Cymdeithas Ddeieteg Prydain
British Medical Association logo Cymdeithas Feddygol Prydain
British and Irish Orthoptic Society logo Cymdeithas Orthoptig Prydain ac Iwerddon
Chartered Society of Physiotherapy logo Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
Federation of Clinical Scientists logo Ffederasiwn Gwyddonwyr Clinigol
GMB logo Yr undeb llafur i bawb GMB
Hospital Consultants and Specialists Association logo Cymdeithas Meddygon Ymgynghorol ac Arbenigwyr Ysbyty
Royal College of Midwives logo Coleg Brenhinol y Bydwragedd
Royal College of Nursing logo Coleg Nyrsio Brenhino
College of Podiatry logo Y Coleg Podiatreg
Society of Radiographers logo Cymdeithas y Radiolegwyr
Unite logo Unite
Unison Logo UNSAIN

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno ag undeb, siaradwch â’ch cynrychiolydd lleol yn y gweithle, neu edrychwch ar y wefan neu’r hysbysfwrdd perthnasol.

 

Y Fforwm Partneriaeth Lleol (LPF)

 Y Fforwm Partneriaeth Lleol (LPF) yw’r dull ffurfiol y mae’r Bwrdd Iechyd a Chynrychiolwyr o Undebau Llafur/Sefydliadau Proffesiynol yn ei ddefnyddio i gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau iechyd. Dyma’r fforwm lle gall rhanddeiliaid allweddol ymgysylltu â’i gilydd i lywio, trafod a cheisio cytuno ar flaenoriaethau lleol ynghylch materion y gweithlu a’r gwasanaeth iechyd.

Caiff LPF ei gyd-gadeirio gan Gadeirydd Cynrychiolwyr y Staff a Chyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. Mae’r aelodau’n cynnwys Cynrychiolwyr y Staff (yn cynnwys yr Aelod Annibynnol dros yr Undebau Llafur), y Tîm Gweithredol a’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol, Cyfarwyddwyr Cynorthwyol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol a Phennaeth Llywodraethu’r Gweithlu.

Mae diben yr LPF yn perthyn i bedair thema drosfwaol: cyfathrebu, ystyried, ymgynghori a negodi, ac arfarnu.

Dilynwch ni