Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleoedd Gyrfa Nyrsio

Ymunwch â’n gweithlu nyrsio

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn darparu gwasanaethau gofal iechyd lleol i bobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a’r Bwrdd yw’r prif ddarparwr gwasanaethau arbenigol i bobl yn ne Cymru, ac ar gyfer rhai gwasanaethau, Cymru gyfan a’r DU yn ehangach.

Mae Caerdydd a Bro Morgannwg yn lleoedd gwych i fyw a gweithio ynddynt. Mae'r staff yn elwa ar ystod eang o amwynderau'r brifddinas, ac mae teithiau cerdded hardd ar hyd yr arfordir a’r bryniau ond pellter byr i ffwrdd. Mae'r golygfeydd yn rhagorol ac mae'r bobl yn gyfeillgar a chroesawgar.

Mae ein Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer ein poblogaeth leol o tua 500,000, ac rydym yn cynnal dros 100 o wasanaethau arbenigol ar gyfer ein rhanbarth a thu hwnt. Rydym yn falch iawn o'r rôl yr ydym yn ei chwarae o fewn y GIG, fel un o'r sefydliadau GIG mwyaf, a mwyaf cymhleth yn y DU.

Rydym yn cyflogi oddeutu 14,000 o staff sy’n gweithio ar draws ystod o safleoedd ysbyty ac yn darparu gofal yng nghartrefi pobl ac mewn lleoliadau cymunedol eraill.

Rydym yn sefydliad addysgu ac ymchwil mawr sydd â chysylltiadau agos â’r Prifysgolion, a gyda’n gilydd rydym yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o’n gweithlu. Rydym hefyd yn darparu cyfran fawr o’r gweithgarwch ymchwil yng Nghymru ac yn falch o fod ar y rheng flaen o safbwynt triniaethau a therapïau newydd sy’n ddyfeisgar ac yn arloesol.

Mae gennym ystod eang o swyddi nyrsio ar gael ar draws y Bwrdd Iechyd ac rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â ni. Mae’r meysydd arbenigol yn cynnwys Iechyd Meddwl Oedolion, Adsefydlu’r Asgwrn Cefn a Chardiothorasig. Rydym yn falch o allu creu amgylchedd cefnogol i’n staff ddatblygu a ffynnu.

Mae ein gweledigaeth fel Bwrdd Iechyd yn syml; dylai siawns rhywun o fyw bywyd iach fod yr un peth, ni waeth pwy ydyw na ble mae’n byw. I gyflawni hyn a sicrhau gwell canlyniadau i bobl, mae angen i ni wella ein system iechyd gyfredol a gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau ei bod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal â darparu gofal eithriadol i gleifion, rydym yn annog ein staff i gymryd rhan wrth lunio ein gwasanaethau. Mae hyn yn fwy perthnasol nag erioed wrth i ni greu ffyrdd newydd o weithio er mwyn gwella ar ôl y pandemig.

 

Os ydych yn chwilio am gyfle nyrsio newydd a chyffrous, cofrestrwch ar gyfer ein Digwyddiad Recriwtio’r Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr Nyrsio ac ODP a gynhelir Dydd Mawrth 9 Ebrill 2024 yn 2il Lawr adeilad Cochrane, Ysbyty Athrofaol Cymru, rhwng 5yp ac 7yp. Cewch gyfle i gwrdd â rhai o’r tîm, cael gwybod am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael a chyfweld am swyddi ar y noson.

I'r rhai na allant fynychu'r digwyddiad yn bersonol, bydd cyfle i gwrdd ag aelod o'r tîm ar-lein yn ddiweddarach.

 

Cofrestrwch nawr i osgoi colli’r cyfle. Mae sgyrsiau ar-lein ar gael ar gais. 


Cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflenni isod:


Digwyddiad Recriwtio’r Gwanwyn y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr Nyrsio ac ODP

Dydd Mawrth 9 Ebrill 2024, 5yp - 7yp


Dilynwch ni