Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglenni Arweinyddiaeth a Rheolaeth

RHAGLENNI RHEOLI

Camau Cyntaf i Reoli

Cydberthnasau Gwaith Iach o fewn unrhyw sefydliad, nid y GIG yn unig. Y rôl reoli lefel gyntaf yw un o’r pwysicaf fwy na thebyg. Mae’r gallu i ddeall a chyfathrebu’n effeithiol ag ystod eang o bobl yn hanfodol. Waeth beth fo’u safle sefydliadol neu rôl, gall dylanwad aelodau staff fynd y tu hwnt i’w tîm uniongyrchol ac effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau.

 

Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i arfogi goruchwylwyr, arweinwyr tîm a darpar reolwyr newydd a phrofiadol yn BIP Caerdydd a’r Fro gyda mwy o hunanymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’u heffaith bersonol a fydd yn eu galluogi i rymuso eu timau’n well.

 

Modiwl 1: Trefnu eich hun ac eraill

Modiwl 2: Gweithio gydag eraill

Modiwl 3: Datblygu cyfathrebu

Modiwl 4: Polisïau a gweithdrefnau

Modiwl 5: Creu gweithle cadarnhaol

 

Sgiliau Rheoli Hanfodol

Gofynnir am geisiadau gan reolwyr llinell presennol neu’r rhai sydd ar fin camu i’r rôl honno o bob rhan o’r BIP. Nod y rhaglen yw datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar reolwyr i reoli eu hunain, eu timau a’u hadnoddau yn effeithiol.

 

Bydd cyfranogwyr yn cael cipolwg ar y sgiliau sydd eu hangen i reoli eraill ac yn cael effaith uniongyrchol ar ddarparu gofal diogel a thosturiol drwy wella perfformiad unigolion a thimau.

 

Modiwl 1: Eich rôl fel rheolwr

Modiwl 2: Gofalu am ein cleifion drwy brosesau da

Modiwl 3: Gofalu am ein pobl a’n diwylliant

Modiwl 4: Rheoli ein hadnoddau

Modiwl 5: Rheoli ein pobl a’n diwylliant

 

Sut i wneud cais?

I nodi eich diddordeb mewn mynychu un o’r rhaglenni hyn, llenwch y ffurflen yma.

 

RHAGLENNI ARWAIN

ACCELER8

Mae ACCELERA8 yn ymwneud â chysylltu arweinwyr â'i gilydd, ar draws ffiniau, systemau a phroffesiynau, i ddatrys problemau, ymgysylltu ac ysgogi eraill, a gwella arferion arwain. Nid ydym yn creu arbenigwyr mewn unrhyw faes penodol, ond yn sicrhau bod cyfranogwyr yn ymwneud â nifer o brofiadau a safbwyntiau gwahanol, gan ychwanegu at eu gwybodaeth a'u harbenigedd presennol. Rydym yn herio meddylfryd systemau gofal iechyd traddodiadol a thrwy gydblethu nifer o elfennau allweddol, rydym am fywiogi cyfranogwyr a sicrhau eu bod yn ailgysylltu â'u cenhadaeth, a chenhadaeth eu sefydliad neu wasanaeth.

 

Mae ACCELER8 yn cynnwys 7 modiwl, pob un â ffocws penodol, wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu a mireinio eich sgiliau a’ch rhinweddau arwain personol eich hun. Fe’ch cyflwynir i ffyrdd newydd o feddwl, o amrywiaeth o gyd-destunau a chanfod ffyrdd o wneud newid yn ein system.

 

Modiwl 1: Arweinyddiaeth wrth wraidd popeth a wnawn

Modiwl 2: Profiad preswyl

Modiwl 3: Arweinyddiaeth ar waith

Modiwl 4: Dylanwadu, gwleidyddiaeth a gwneud penderfyniadau

Modiwl 5: Arloesi a gwella

Modiwl 6: Pobl, diwylliant a diogelwch

Modiwl 7: Cyflawni hyn…

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ACCELER8 yma (EN) neu (CY).

 

Dilynwch ni