Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch fwy am fentora

Mentora yng Nghaerdydd a'r Fro

Mae mentora yn y gweithle yn tueddu i ddisgrifio perthynas lle mae cydweithiwr mwy profiadol yn rhannu ei wybodaeth ehangach i gefnogi datblygiad aelod staff dibrofiad. Mae'n tynnu ar sgiliau cwestiynu, gwrando, egluro ac ail-fframio sydd hefyd yn gysylltiedig â hyfforddi.

Yn y gweithle, mae mentoriaid yn aml yn cael eu dynodi'n ffurfiol felly trwy gytundeb ar y cyd, a thu allan i gadwyn rheoli llinell unigolyn. Fel rheol mae ganddyn nhw brofiad ac arbenigedd sylweddol ym maes busnes yr unigolyn.

Un gwahaniaeth allweddol yw bod perthnasoedd mentora yn tueddu i fod yn hirach na threfniadau hyfforddi. Mewn senario cynllunio olyniaeth, er enghraifft, gallai cyfarwyddwr cyllid rhanbarthol gael ei fentora gan gymar ar lefel grŵp dros gyfnod hir i ddatblygu dull cadarn o ddelio â'r bwrdd, cyflwyno i ddadansoddwyr a herio cyllidebau adrannol.

Mae perthnasoedd mentora yn gweithio orau pan fyddant yn symud y tu hwnt i ddull cyfarwyddo cydweithiwr hŷn sy'n ei 'dweud hi fel y mae', i un lle mae’r ddau ohonyn nhw’n dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae perthynas fentora effeithiol yn gyfle dysgu i'r ddau barti, gan annog rhannu a dysgu ar draws cenedlaethau a/neu rhwng rolau.

Fel arfer, mae perthynas fentora yn canolbwyntio ar y dyfodol, datblygu gyrfa, ac ehangu gorwelion unigolyn, yn wahanol i hyfforddi sy'n tueddu i ganolbwyntio mwy ar faterion cyfredol, a datrys problemau neu faterion uniongyrchol.

Hoffwn ddod yn fentor C&F yn y Gweithle
Hoffwn ddod o hyd i fentor yn y Gweithle

 


I gael mwy o wybodaeth am Hyfforddi a Mentora, edrychwch ar y tudalennau uchod. Os hoffech ddarllen ymhellach, ewch i wefan CIPD.

Dilynwch ni