Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddi a Mentora

LED Coaching Mentoring Header

Gall hyfforddi a mentora fod yn ddulliau effeithiol o ddatblygu pobl a'u helpu i gyflawni eu potensial llawn. Mae hyfforddi a mentora yn ddulliau datblygu sy'n seiliedig ar ddefnyddio sgyrsiau un i un i wella sgiliau, gwybodaeth neu berfformiad gwaith unigolyn.

Yn BIP Caerdydd a'r Fro, rydym yn defnyddio'r ddau i wella sgiliau, gwybodaeth a pherfformiad ein staff o ran sgiliau a nodau penodol.

Hyfforddi

Mentora

Mae hyfforddi'n cynnwys y gred bod gan yr unigolyn yr atebion i'w broblemau ei hun tu mewn iddo. Nid yw'r hyfforddwr yn arbenigwr pwnc, ond yn hytrach mae'n canolbwyntio ar helpu'r unigolyn i ddatgloi ei botensial ei hun a'i helpu i fod y gorau y gall fod.
Nod hyfforddi yw cynhyrchu'r perfformiad a'r gwelliant gorau posibl yn y gwaith. Mae'n canolbwyntio ar sgiliau a nodau penodol, er y gall hefyd gael effaith ar briodoleddau personol unigolyn fel rhyngweithio cymdeithasol neu hyder. Mae hyfforddi ffurfiol fel arfer yn para am gyfnod penodol o amser ond mae llawer o reolwyr yn defnyddio cwestiynau hyfforddi fel rhan o'u harddull reoli barhaus.

Mae mentora yn y gweithle yn tueddu i ddisgrifio perthynas lle mae cydweithiwr mwy profiadol yn rhannu ei wybodaeth ehangach i gefnogi datblygiad aelod staff dibrofiad.

Mae'n tynnu ar sgiliau cwestiynu, gwrando, egluro ac ail-fframio sydd hefyd yn gysylltiedig â hyfforddi.
Mae'r mentor yn arweinydd sy'n helpu rhywun i ddysgu neu ddatblygu'n gyflymach nag y gallai ei wneud ar ei ben ei hun.

Nid yw hyfforddwr o reidrwydd yn unigolyn dynodedig: gall unrhyw un ddefnyddio dull hyfforddi gydag eraill, p'un a ydynt yn gyfoedion, yn is-weithwyr neu'n uwch swyddogion.  

 

 
Dysgwch fwy am Hyfforddi
Dysgwch fwy am Fentora

 

Gwahanol ddulliau addysgu

Dull addysgu

 

Hyfforddi

Mentora

Cynghori

Y Cwestiwn

Sut?

Beth?

Pam?

Y Ffocws

Y presennol

Y dyfodol

Y gorffennol

Nod

Gwella sgiliau Datblygu ac ymrwymo i nodau dysgu Goresgyn rhwystrau seicolegol

Amcan

Codi cymhwysedd

Agor gorwelion

Adeiladu Hunan-ddealltwriaeth

I gael mwy o wybodaeth am Hyfforddi a Mentora, edrychwch ar y dolenni tudalennau uchod. Os hoffech ddarllen ymhellach, ewch i CIPD https://www.cipd.co.uk/knowledge/fundamentals/people/development/coaching-mentoring-factsheet 

Dilynwch ni