Neidio i'r prif gynnwy

Cyflogi Prentis

**Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 8-14 Chwefror 2021**

Tystebau Prentisiaeth 2021

 

Ceri Hill, Rheolwr Addysg Feddygol

Luke Cordery, Prentis Gweinyddu Busnes, Addysg Feddygol Nicky Punter, Rheolwr Llinell, Dysgu a Datblygu Addysg Shauna Jones, Prentis Gweinyddu Busnes, Iechyd Galwedigaethol
Chloe Knott, Prentis Gweinyddu Busnes, Dysgu a Datblygu Addysg Lylah Ali, Prentis Gweinyddu Busnes, Cedar Sara Gomes, Arweinydd Tîm Gweinyddol a Rheolwr Prosiect, Iechyd Galwedigaethol

 

Tommos Martin, Prentis Gweinyddu Busnes, Addysg Feddygol

Erin Harry Pugh, Prentis Gweinyddu Busnes, yr Uned Brintio, Darlunio Meddygol Melissa Melling, Cyfarwyddwr Creadigol a Rheolwr Stiwdio, Darlunio Meddygol (Rheolwr Llinell)  

 

 

Mae recriwtio prentisiaid i swyddi gwag priodol yn ffordd gynaliadwy o sicrhau a thyfu eich gweithlu ar gyfer y dyfodol. Adolygwch y Canllawiau Rheolwyr a'r Broses Recriwtio Prentisiaid a fydd yn rhoi'r manylion i chi o'r cyfnod recriwtio hyd at y Prentis yn sicrhau cyflogaeth ar ddiwedd y cymhwyster.

Ffeithiau allweddol:

  • Gall prentisiaid fod o unrhyw oedran
  • Bydd prentisiaid yn ymgymryd â fframwaith cymwysterau sy'n berthnasol i'ch maes/ardal chi
  • Bydd prentisiaid ar gontract prentis tymor penodol
  • Gall oriau gwaith fod yn unrhyw beth dros 16 awr yr wythnos (heb fod yn fwy na 37.5)
  • Ariennir cyflog y prentis o'ch sefydliad adran

Os oes gennych swydd wag yn eich maes/ardal a'ch bod yn credu y byddai hon yn addas ar gyfer Prentis, cysylltwch ag Emma Bendle, y Cydlynydd Prentisiaeth ac Ehangu Mynediad i drafod. Mae'r tabl isod yn rhoi trosolwg o'r broses, ond cyfeiriwch at y Canllawiau Rheolwyr uchod i weld y broses lawn. Gellir gweld trosolwg cyflym o'r broses isod yma.

Adnabod Nodi unrhyw swyddi gwag sydd ar y gweill yn eich sefydliad ac ystyried a fyddent yn briodol datblygu i fod yn swydd brentisiaeth.
Cydlynu Cysylltu ag Emma Bendle, sef y Cydlynydd Prentisiaeth ac Ehangu Mynediad, a fydd yn cynorthwyo i ddatblygu'r disgrifiad swydd, y fanyleb person a chysylltu â darparwyr addysg lleol.
Hysbysebu Bydd Emma Bendle yn hysbysebu trwy sianeli priodol fel swyddi GIG ac yn cysylltu â Gwasanaeth Paru Swyddi Gyrfa Cymru a darparwyr hyfforddiant.
Recriwtio

Llunio rhestr fer, cyfweld a phenodi.

Gwiriadau recriwtio wedi eu cwblhau, contractau wedi eu hanfon gan y gwasanaethau a rennir a chychwyn y broses sefydlu.

CPD Bydd y prentis yn cychwyn ar ei lwybr addysgol o'r dechrau, bydd mentor yn cael ei aseinio, a chaiff datblygiad ei fonitro trwy 1:1 a goruchwyliaeth.
Y dyfodol Llwyddo i ennill cymhwyster. Cyfweliad ar gyfer swydd barhaol bosibl a chofrestru ar gymhwyster prentis uwch.

 

 

Dilynwch ni