Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaethau - Gwasanaeth Cwsmer

Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaeth Cwsmer Lefel 2 Cymraeg

Anelir y rhaglen hon yn bennaf at ymgeiswyr sy'n ymgymryd â rôl gwasanaeth cwsmer ac sy'n cydnabod bod cyflogaeth yn y sector gwasanaeth cwsmer yn cynnwys ystod amrywiol o swyddogaethau, tasgau a gweithgareddau sy'n datblygu ac yn newid yn gyson. Mae'n addas ar gyfer ymgeiswyr:

  • Sydd â rolau gwasanaeth cwsmer a swyddi gweinyddol penodol
  • Sy'n gweithio mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmer
  • Y mae eu rôl yn cynnwys darparu gwasanaeth i gwsmeriaid

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth hon byddwch yn cyflawni'r canlynol:

  • Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaeth Cwsmer
  • Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmer
  • Cymhwyso Hanfodol Sgiliau Rhifau Lefel 1 a Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1

Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.


Prentisiaeth Uwch mewn Gwasanaeth Cwsmer Lefel 3  Cymraeg

Anelir y rhaglen hon at ymgeiswyr a fydd yn darparu ac yn rheoli gwasanaeth cwsmer ac a fydd yn atebol yn eu maes ymarfer. Gallai ymgeiswyr fod yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol neu'n aelod uwch mewn tîm fel o fewn amgylchedd gwasanaeth cwsmer masnachol. Mae'n addas ar gyfer ymgeiswyr sydd:

  • Yn gallu dylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yn y gwaith
  • Yn defnyddio rheolau a systemau'r sefydliad yn hyblyg i ddarparu gwasanaeth da
  • Yn cwestiynu'r ffordd mae pethau'n cael eu gwneud ac yn awgrymu gwelliannau
  • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da a gwybodaeth eang am beth i'w wneud, pwy i'w weld a ble i fynd i wneud pethau i'r cwsmer
  • Yn ymwybodol o'r pwysau masnachol neu bwysau arall sy'n wynebu'r sefydliad/ busnes

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth hon byddwch yn cyflawni'r canlynol:

  • Prentisiaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer
  • Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth Cwsmer
  • Cymhwyso Hanfodol Sgiliau Rhifau Lefel 2 a Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2

Am wybodaeth bellach cyfeiriwch at y fframwaith llawn.

 

Dilynwch ni