Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaethau i Staff Presennol

Yn dilyn newidiadau i'r ffordd y mae prentisiaethau'n cael eu hariannu'n genedlaethol, mae'n ofynnol i'r BIP nawr dalu i mewn i ardoll brentisiaeth, mae hyn yn cyfateb i oddeutu £2.4 miliwn bob blwyddyn. Gellir defnyddio cronfeydd ardoll i gynnig cyfleoedd datblygu gwych i staff presennol y BIP.  Bydd prentisiaeth yn arwain at feistroli sgiliau newydd neu sgiliau lefel uwch sy'n ofynnol ar gyfer eich swydd. Gall staff o unrhyw oedran neu radd ennill cymwysterau proffesiynol ychwanegol sy'n cefnogi'r rôl y maent yn ei chyflawni.

  • Mae prentisiaethau ar gyfer staff ar bob lefel - o'r rhai a adawodd yr ysgol yn 16 oed hyd at lefel gradd sylfaen
  • Mae staff yn cadw eu cyflog cyfredol a'u telerau ac amodau
  • Nid oes unrhyw derfynau oedran
  • Ariennir hyfforddiant prentisiaeth yn llawn trwy'r ardoll brentisiaethau, heb unrhyw gost i adrannau
  • Ymdrinnir ag ystod eang o alwedigaethau

Beth yw'r Ymrwymiadau

Mae prentisiaethau yn gyfleoedd datblygu sy'n gofyn am ymrwymiad gan yr unigolyn sy'n gwneud y brentisiaeth a'i reolwr. Mae'r gefnogaeth gan y rheolwr yn hanfodol er mwyn i'r aelod staff allu cwblhau'r cymhwyster hwn. Diffyg cefnogaeth yw un o'r prif resymau dros i staff dynnu'n ôl o gymhwyster fel hwn. Mae bron pob un o'r cymwysterau yn cael eu cwblhau yn y gweithle a bydd angen i chi gael ymweliadau aseswyr misol sy'n para 60 - 90 munud. Mae'n bwysig eich bod yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'ch asesydd.

Y Camau Nesaf

Dylech drafod â'ch rheolwr llinell ai prentisiaeth yw'r ffordd orau i gefnogi'ch anghenion datblygu neu a fyddai ymyrraeth hyfforddi gwahanol yn fwy priodol. Gallwch ymgymryd â phrentisiaeth ar yr un lefel â chymhwyster sydd gennych eisoes, neu ar lefel is na hynny, os bydd y brentisiaeth yn caniatáu ichi ennill sgiliau newydd sylweddol a gallwch dystiolaethu bod yr hyfforddiant yn sylweddol wahanol i unrhyw gymhwyster blaenorol neu brentisiaeth flaenorol. Cynhelir sesiynau ymwybyddiaeth yn fisol ar draws y BIP er mwyn i chi gael mwy o wybodaeth gan ddarparwr y cwrs.

Rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cael Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd ("VBA") yn ystod y 12 mis diwethaf a gofnodwyd ar ESR a'ch bod wedi cwblhau pob un o'r 13 modiwl o'r hyfforddiant gorfodol. 

Cwblhewch y ffurflen gais ac anfonwch hi at Emma Bendle

Meysydd Pwnc

Cliciwch ar y meysydd isod i weld y cymwysterau sydd ar gael:

Ein Darparwyr Cwrs

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'r darparwyr hyfforddiant canlynol i gefnogi darparu prentisiaethau ar draws y BIP.

 

T2 Group Talk Training Coleg Sirgar

 

 

Dilynwch ni