Neidio i'r prif gynnwy

Ymgeisio am Brentisiaeth

Hoffech chi ymuno â ni fel Prentis?

Ein pwrpas a'n gwerthoedd

Pwrpas ein gwerthoedd yw gwella profiad cleifion yn ein gofal, a'n profiad ein hunain o weithio yma. Y pedwar gwerth yw Bod yn Garedig a Gofalu, Parchu, Ymddiriedaeth, ac Uniondeb a Chyfrifoldeb Personol.

Am bwy rydyn ni'n chwilio
Unigolion sydd â chymhelliant i wneud gwahaniaeth mewn gofal iechyd ac sy'n awyddus i ddysgu a datblygu.

Mathau o brentisiaethau

Rydym yn cynnig amryw brentisiaethau gan gynnwys: Gweinyddiaeth, TG, Gwasanaethau Ystadau a Chyfleusterau, i enwi ond ychydig. Rydym yn gweithio'n barhaus tuag at ddatblygu llwybrau prentisiaeth newydd.

Beth yw'r rhaglen astudio

Byddwch yn cwblhau'r Fframwaith Prentisiaeth QCF priodol ar gyfer eich rôl. Bydd hyn yn cynnwys asesiad galwedigaethol yn y swydd, tystysgrifau technegol, cyfathrebu digidol, rhifedd a llythrennedd. Bydd ein darparwyr addysg partner yn eich cefnogi chi ynghyd â thîm yr Academi Prentisiaid.

Beth am ddilyniant

Fel pob prentisiaeth, yn BIP Caerdydd a'r Fro ni allwn warantu swydd barhaol ar ddiwedd rhaglen brentisiaeth. Fodd bynnag, gallwn ddarparu sgiliau, cymwysterau a phrofiad gwerthfawr, trosglwyddadwy a fydd yn gweithredu fel arweiniad i yrfa yn y dyfodol. Mae cyn-brentisiaid wedi elwa o hyn ac wedi mynd ymlaen i amrywiaeth o rolau yn BIP Caerdydd a'r Fro a'r gymuned ehangach. 

Sut alla'i ganfod mwy

Bydd pob swydd prentis yn cael ei hysbysebu trwy Swyddi GIG a Gwasanaeth Paru Prentis Gyrfa Cymru.

Gallwch hefyd anfon e-bost at Emma Bendle os oes gennych gwestiynau pellach. Am fersiwn y gellir ei hargraffu o'r wybodaeth hon, cliciwch yma.

 

nhs jobs         careers wales

 

 

Dilynwch ni