Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Galluogrwydd?

Mae "galluogrwydd" yn cyfeirio at y sgiliau, y gallu, y ddawn a'r wybodaeth sydd gennym mewn perthynas â'r swydd y cawn ein cyflogi i'w gwneud. Gan amlaf, bydd diffyg galluogrwydd yn arwain at berfformiad anfoddhaol mewn swydd, a hynny wedyn yn debygol o achosi problemau i'r rheolwyr ac i'r cyflogeion.

Rydym yn cydnabod mai ychydig iawn o bobl sy'n dewis perfformio'n wael yn y gwaith, gwneud camgymeriadau, methu cwblhau tasgau neu gael perthynas wael â'u cydweithwyr neu gleifion.

Os yw aelod o staff yn tanberfformio, dylai'r rheolwr gymryd camau priodol i archwilio'r amgylchiadau a'i gefnogi i wella i'r safon ofynnol o gymhwysedd. Gall oedi neu wneud dim achosi i'r broblem berfformiad waethygu'n ddianghenraid!

Y gwahaniaeth rhwng galluogrwydd ac ymddygiad

Y cam cyntaf i reoli tanberfformiad yw nodi'r mater/ion mwyaf sylweddol a phennu ai galluogrwydd neu ymddygiad sydd dan sylw. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y polisi mwyaf perthnasol yn cael ei ddilyn ac y gellir rhoi camau priodol ar waith. Nid yw hyn bob amser yn syml nac yn ddiffwdan, ac weithiau gellir drysu rhwng materion galluogrwydd ac ymddygiad. I'ch helpu gyda hyn, rydym wedi rhestru rhai o'r gwahaniaethau allweddol - cliciwch ar y ddelwedd am fersiwn y gellir ei hargraffu: 

 

Capability vs Conduct

 

Mae'n bwysig cydnabod nad yw perfformiad gwael bob amser oherwydd sgiliau, gallu, dawn a/neu wybodaeth cyflogai. Os felly, gall fod yn briodol cyfeirio at Bolisi neu Weithdrefn arall.

 

alternatives to capability v2

Dilynwch ni