Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Galluogrwydd - Monitro ac Adolygu Perfformiad

Fel canllaw, mae'r Polisi a'r Weithdrefn Galluogrwydd yn nodi y dylai amserlenni i gyflawni gwelliant fel arfer fod rhwng mis o leiaf a thri mis ar y mwyaf. 

Dylid cytuno ar amserlenni ar gyfer cyflawni gwelliant a byddant yn dibynnu ar y ffactorau canlynol:

  • risgiau peidio â chyflawni'r rôl
  • yr effaith ar y gwasanaeth
  • cymlethdodau'r swydd
  • argaeledd hyfforddiant a chymorth

Os nad ydych yn fodlon ar berfformiad y cyflogai ar ôl yr amserlenni adolygu a gytunwyd naill ai yn y cam anffurfiol neu gamau ffurfiol 1-3, gall y mater symud ymlaen i wrandawiad y cam nesaf e.e. cam 1 i 2 neu 2 i 3.

Os teimlwch y cafwyd gwelliant sylweddol ond annigonol ar unrhyw adeg, mae'n bosibl estyn y cyfnod adolygu unrhyw bryd.

Mae'n bwysig sicrhau bod safonau perfformiad, pan fyddant wedi'u cyflawni, yn cael eu cynnal drwy fonitro ac adolygu priodol. Dylech sicrhau bod adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal yn rhan o'ch gwaith rheoli pob dydd ac, os yw'n briodol, bod gwelliannau'n cael eu hatgyfnerthu ag adborth cadarnhaol. 

Os yw perfformiad wedi gwella'n ddigonol, o ganlyniad i gamau anffurfiol cynnar neu wrandawiad, dylech gyfarfod eto â'r unigolyn i gadarnhau'r canlyniad cadarnhaol a'i nodi'n ysgrifenedig. 

Dilynwch ni