Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Galluogrwydd yn Anffurfiol

Os ydych yn credu nad yw aelod o'ch tîm yn perfformio i'r safon ofynnol, mae'n well i'r ddau ohonoch os rhoir sylw'n gynnar i'r broblem.

Yn y lle cyntaf, dylid ymdrin â materion perfformiad yn anffurfiol. Y nod yw datrys y pryder cyn i safbwyntiau gadarnhau neu cyn i batrymau gwaith ymsefydlu; os felly, byddant yn anoddach eu newid a/neu'n dechrau effeithio ar aelodau eraill o'r tîm. Yn yr un modd â phob math o faterion perfformiad, mae'n bwysig i'r cyflogai gael y cyfle i ymateb a gwella cyn i unrhyw gamau ffurfiol gael eu cymryd.

Mae nifer o bethau y dylech eu gwneud yn ystod trafodaeth anffurfiol (boed yn rhan o gyfarfodydd 1:1 rheolaidd neu wedi'u trefnu'n benodol i fynd i'r afael â pherfformiad gwael) - i'ch helpu, datblygwyd rhestr wirio

Amgylchiadau Lliniaru

Os nodir unrhyw amgylchiadau lliniaru, efallai bydd angen eu harchwilio a'u hystyried ymhellach. Er enghraifft, efallai bydd mater meddygol neu ddatgeliad anabledd a godwyd o'r newydd yn mynnu atgyfeiriad i Iechyd Galwedigaethol. 

COFIWCH: cadwch nodyn o'r cyfarfod ac o'r canlyniadau gofynnol, targedau ac amserlenni ar gyfer gwelliant a rhannwch ef gyda'r unigolyn yn dilyn y cyfarfod. 

 

Dilynwch ni