Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gynnal asesiad galluogrwydd cychwynnol

Os na fydd trafodaethau anffurfiol yn arwain at welliant boddhaol wedi amserlen resymol, neu os daw pryderon mwy difrifol i'r amlwg, dylid cynnal asesiad cychwynnol. Diben yr asesiad hwn fydd penderfynu a ddylid cymryd camau ffurfiol o dan y Polisi a'r Weithdrefn Galluogrwydd.


Yn y man hwn, mae'n bwysig casglu'r ffeithiau i gyd a gall hyn gynnwys: 

  • Adolygu cofnodion PADR a chofnodion adolygiad anffurfiol
  • Gofyn am dystlythyrau
  • Adolygu dogfennau perthnasol eraill e.e. cofnodion trafodaeth mentoriaid clinigol 
  • Cael trafodaeth gyda'r cyflogai ynghylch ei waith.   

Dylech ystyried a ydy unrhyw faterion sylfaenol wedi cael sylw ac a oes unrhyw analluogrwydd oherwydd anabledd yn rhan o'r asesiad, cyn penderfynu bwrw ymlaen i gam ffurfiol y Polisi a'r Weithdrefn Galluogrwydd. 

Gallai ystyriaethau defnyddiol eraill yn rhan o'r asesiad hwn gynnwys: 

  • a ydy'r cyflogai wedi cael amser rhesymol a'r cyfle i wella 
  • a ystyriwyd perthnasedd ac arwyddocâd unrhyw amgylchiadau lliniaru a godwyd 
  • yr effaith ar y gwasanaeth a risgiau ar y rôl 

Ar ôl ystyried yr uchod i gyd, os credwch fod digon o dystiolaeth o danberfformiad parhaus, a hynny heb arwain at welliant yn dilyn ymyriadau anffurfiol, efallai y dymunwch fwrw ymlaen i gamau ffurfiol y Polisi a'r Weithdrefn Galluogrwydd. 

Dilynwch ni