Neidio i'r prif gynnwy

Cynnwys Cyflogeion a Thrafodaethau Tîm

Efallai yr hoffech ddewis o'r pynciau hyn ar gyfer trafodaeth achlysurol mewn cyfarfod tîm: 

 

  • Beth yw profiad aelodau'r tim o'r sefydliad? I ba raddau maent yn teimlo bod ganddynt gysylltiad emosiynol â'r sefydliad? A ydyn nhw'n deall ei ddiben a'i amcanion? Pa mor gryf maen nhw'n credu yn yr hyn a wna?
  • Beth mae'r tîm yn ei werthfawrogi mewn arweinydd? Sut mae eu huwch arweinwyr yn cymharu â hynny? Beth fydden nhw'n ei wneud?
  • A oes gan y tîm yr offer ar gyfer y gwaith? A ydyn nhw'n teimlo bod ganddynt y cyfarpar a'r grym i gwblhau'r gwaith? Beth fyddai'n helpu – gweithio craffach; datrys problemau; cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith; sgiliau ar gyfer y swydd; technoleg; ymddiriedaeth? Pa ddewisiadau yr hoffent eu cael? A ydyn nhw'n cael eu cynnwys digon yn y penderfyniadau am eu gwaith?
  • Beth yw eu profiad o dîm cefnogol? Mae timau cryf yn gryfach o gydweithio, ac maent yn creu'r cyd-destun y gall pobl ffynnu a chyflenwi ynddo. 
  • Pa ddysgu a datblygiad y mae arnynt eu heisiau? A allant helpu ei gilydd drwy ddysgu fel tîm?
  • A oes ganddynt waith ystyrlon? Beth fyddai'n helpu? Gweithio craff; gwell cynllun swydd; newidiadau yn rolau'r tîm; mwy o eglurder mewn rolau ac amcanion; gwell perthynas a chydweithio â thimau eraill; teimlo wedi'u gwerthfawrogi
  • Beth yw eu profiad o gysylltu â rheolwyr? Efallai yr hoffech hwylusydd allanol ar gyfer hwn, er mwyn i'ch tîm deimlo'n gyfforddus i siarad.
  • Beth yw eu profiad o gael eu trin yn deg? Mae cynhwysiant a thriniaeth deg yn rhan annatod o greu gweithlu ymgysylltiol. Sut mae'r tîm a'r sefydliad yn gwerthfawrogi amrywiaeth, yn rhoi cyfle cyfartal, yn hyrwyddo didwylledd a gonestrwydd?
Dilynwch ni