Neidio i'r prif gynnwy

Galluogrwydd - rôl y rheolwr

Mae pob rheolwr llinell yn gyfrifol am reoli perfformiad unigolion/timau.  

Anogir rheolwyr i gael sgyrsiau agored a gonest gyda'u tîm drwy gydol y flwyddyn ac nid yn yr Adolygiad Datblygu Perfformiad (PADR) blynyddol ffurfiol yn unig.

Er na fyddwch efallai'n hoffi meddwl am ymdrin â pherfformiad gwael, mae'n hanfodol inni wneud hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal ein safonau uchel o ofal cleifion ac yn parhau i fod yn lle gwych i weithio a dysgu. 

Cyn ichi wneud hyn, gall fod yn ddefnyddiol ystyried a oes unrhyw beth a allai fod yn achosi'r broblem o safbwynt rheoli - datblygwyd rhestr wirio i'ch helpu gyda hyn.  

Mewn llawer o achosion o danberfformiad sy'n gysylltiedig â galluogrwydd, efallai bydd dull cymharol anffurfiol sy'n cynnwys ystyried y pwyntiau hyn yn gynnar yn ddigon i fynd i'r afael â'r mater. 

 

 

capability every day

 

 

Dilynwch ni