Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant Rheoli Presenoldeb

Mae dau fath o hyfforddiant yn cael eu cyflenwi ar y Polisi Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith - a'r ddau ohonynt yn cael eu cyflenwi ar y cyd gan AD a chydweithwyr Undeb Llafur: 

Hyfforddiant Sylfaen

Mae'r sesiwn hon yn ymdrin â phob agwedd ar y polisi a gynlluniwyd i fodloni anghenion dysgu staff sydd: 

  • yn newydd i swydd rheoli llinell neu oruchwylio neu sy'n Gynrychiolydd Undeb Llafur newydd.
  • heb lawer o brofiad o reoli absenoldeb staff yn llwyddiannus o dan y trefniadau polisi blaenorol.

Diweddariad Craidd a Newid Diwylliant

Mae'r sesiwn hon yn ymdrin ag agweddau allweddol ar y polisi newydd ac yn adolygu'r gwahaniaethau allweddol rhwng y polisi blaenorol a'r polisi Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith newydd. Fe'i cynlluniwyd i fodloni anghenion dysgu cydweithwyr, Rheolwyr a Chynrychiolwyr Undeb Llafur sy'n brofiadol mewn rheoli presenoldeb ac sydd eisoes yn defnyddio'r polisi Absenoldeb oherwydd Salwch blaenorol ac y mae angen arnynt bellach ddealltwriaeth fanwl o'r newid diwylliant sydd wedi'i wreiddio yn y polisi newydd.

I gael gwybod am ddyddiadau, lleoliadau ac amseroedd hyfforddiant yn 2020 - Hyfforddiant Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith 2020

Gallwch gadw lle ar yr hyfforddiant Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith drwy hunanwasanaeth ESR. Cewch gyfarwyddiadau ar sut mae cadw lle ar yr hyfforddiant drwy ESR yma. Sylwch nad oes gennych le ar y cwrs nes bod eich rheolwr wedi cymeradwyo eich cais i fynychu drwy ESR.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu anawsterau'n cael lle ar yr hyfforddiant, cysylltwch â'r Ganolfan Gweithrediadau AD drwy'r cyfeiriad e-bost Action Point.

Dilynwch ni