Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Presenoldeb

Mae'r BIP wedi ymrwymo i gefnogi ei gyflogeion a'u cadw'n iach. Mae angen i reolwyr a chyflogeion gydweithio i gynnal presenoldeb yn y gwaith er mwyn inni fodloni ein diben - sef gofalu am ein cleifion!

 

Mae Polisi Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith [Cymraeg RPGP] [English MAWP] yma i gynorthwyo rheolwyr i gefnogi staff pan fyddant yn sâl, rheoli eu habsenoldeb a helpu i'w hwyluso i ddychwelyd i'r gwaith yn amserol, ond mae'n ymwneud â mwy na hynny - fe'i cynlluniwyd hefyd i'ch helpu i adnabod eich staff a chanolbwyntio ar eu hiechyd a'u lles i'w cadw'n iach a'u cadw yn y gwaith.

Yn y pecyn cymorth hwn, cewch wybodaeth am y Polisi Rheoli Presenoldeb a'r 'Gweithdrefnau Sut Mae...' sy'n ei gefnogi, gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i'ch cefnogi, cwestiynau ac atebion, a'r ffurflenni a'r gwaith papur sydd eu hangen arnoch. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi hwn, y Gweithdrefnau Sut Mae... neu'r pecyn cymorth ar-lein hwn, cysylltwch ag AD ar y rhif 02921 836287 [Est. 36287] neu e-bost 

Dilynwch ni