Neidio i'r prif gynnwy

Yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig

Ymchwiliad Gwaed Heintiedig | Infected Blood Inquiry - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a

Bydd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn cael ei gyhoeddi ar 20 Mai 2024 yn dilyn ymchwiliad statudol cyhoeddus annibynnol.

Sefydlwyd yr Ymchwiliad yn 2017 i archwilio’r amgylchiadau pan roddwyd cynhyrchion gwaed heintiedig i ddynion, menywod a phlant a gafodd driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Deyrnas Unedig rhwng 1970 a 1991.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr Ymchwiliad ar wefan yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yma.

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ymwneud â darparu gofal i’r rhai oedd angen gwaed neu gynhyrchion gwaed a gwyddom fod rhai o’r cleifion hynny wedi’u heintio wedi hynny a bod y canlyniadau wedi effeithio ar aelodau o’u teulu a’u hanwyliaid.

Rydym yn cydnabod ac yn ymddiheuro’n ddiamod am y loes, y boen a’r dioddefaint a achoswyd a hoffem achub ar y cyfle hwn i estyn ein hymddiheuriad diffuant i bawb yr effeithiwyd arnynt a’n cydymdeimlad dwysaf i’r rhai sydd wedi colli anwylyd. Hoffem gydnabod y llu o bobl a grwpiau eiriolaeth fel Hemoffilia Cymru a Grŵp Birchgrove a ymgyrchodd yn ddiflino i gynnal ymchwiliad cenedlaethol. Mae’r dewrder, y gwydnwch a’r dyfalbarhad a ddangoswyd gan bawb a ddarparodd dystiolaeth yn wirioneddol ryfeddol.

Rydym wedi cefnogi’r Ymchwiliad i Waed Heintiedig mewn ffordd agored a thryloyw gan rannu’r holl wybodaeth a dogfennaeth berthnasol.

Ynghyd â chyrff iechyd cyhoeddus eraill, mae’r Bwrdd Iechyd wedi mabwysiadu’r Siarter ar gyfer Teuluoedd mewn Profedigaeth drwy Drasiedi Gyhoeddus. I ddarllen y siarter hon a lofnodwyd gan Maria Battle, cyn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cliciwch yma.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sydd â chwestiynau am ofal a byddwn yn dilyn y dull Dyletswydd Gonestrwydd ac yn rhannu unrhyw gofnodion meddygol sydd ar gael ar gais. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored, yn dryloyw ac yn onest gydag unrhyw un sy'n cysylltu â ni. I ddarllen mwy am y Ddyletswydd Gonestrwydd, cliciwch yma.


Os ydych chi'n poeni y gallech chi neu anwylyd fod wedi cael eich heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig neu yr effeithiwyd arnoch, mae ein Tîm Pryderon ar gael i drafod hyn gyda chi.

Mae'r Tîm Pryderon ar agor o 7.30am tan 4pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener ac o 7.30am tan 6pm ddydd Mercher.

I gysylltu â’r Tîm Pryderon:
E-bost Concerns@wales.nhs.uk  
Ffôn: 029 218 36318

Os ydych yn byw y tu allan i ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â’ch Bwrdd Iechyd. Mae rhestr o'r holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru i'w gweld yma.


Mae tîm Rhwydwaith Anhwylderau Gwaedu Cymru yn y Ganolfan Hemoffilia yng Nghaerdydd wedi sefydlu llinell ffôn a chyfeiriad e-bost pwrpasol i gefnogi cleifion a theuluoedd yng Nghymru sydd wedi’u heintio neu y mae cynhyrchion gwaed halogedig wedi effeithio arnynt. Bydd y rhain yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm.

I gysylltu â thîm Rhwydwaith Anhwylderau Gwaedu Cymru:

E-bost: BDNW.InfectedBloodInquiry.Cav@wales.nhs.uk
Ffôn: 0800 952 0055

Fel arall, gallwch gysylltu â Hemoffilia Cymru drwy info@haemophiliawales.org neu drwy eu ffurflen gyswllt ar-lein yma.


Rhagor o wybodaeth




Cymorth i bobl sydd wedi’u heintio ac yr effeithiwyd arnynt

Mae'r Gwasanaeth Anhwylderau Gwaedu wedi datblygu adnodd i bobl gyda gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael i'ch cefnogi yn ystod yr amser hwn. I weld yr adnodd hwn, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
 

Taflenni gwybodaeth i gleifion

Dilynwch ni