Neidio i'r prif gynnwy

Ymarferwyr Hybu Iechyd

Lauren Thomas

Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd
Ymunodd Lauren â’r GIG yn 2020 ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda’r tîm Tybaco yn Nhîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro. Prif ffocws ei rôl yw mynd i’r afael â niwed smygu i blant a phobl ifanc.
Mae Lauren wedi cyflawni amryw o rolau ym maes iechyd y cyhoedd, gan gynnwys Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd a Gwella Iechyd. Cyn ymuno â’r GIG, bu Lauren yn gweithio fel Swyddog Datblygu Chwaraeon am naw mlynedd ac mae ganddi radd BSc (Anrh) mewn Datblygu Chwaraeon a Chymhwyster TAR.
Mae Lauren yn angerddol dros gefnogi poblogaeth Caerdydd a’r Fro, yn enwedig wrth eu haddysgu am sut y gall smygu waethygu anghydraddoldebau iechyd sy’n bodoli eisoes yn ein cymunedau.

Sadie Alexander

Ymarferydd Hybu Iechyd
Penodwyd Sadie yn Ymarferydd Hybu Iechyd ym mis Mawrth 2014, fel aelod o’r Tîm Addysg Camddefnyddio Sylweddau amlddisgyblaethol unigryw, Switched On. Yn ystod 2021, enillodd Switched On y Wobr Addysg a Datblygiad yng Ngwobrau Cydnabyddiaeth Staff BIPCAF.
Mae rolau blaenorol Sadie yn cynnwys Addysg Ieuenctid a Chymunedol mewn sefydliadau awdurdod lleol a thrydydd sector ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae hi bellach yn gweithio ar bynciau hybu iechyd fel imiwneiddio, atal achosion o gwympo a Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC).
Mae hyn wedi rhoi cipolwg iddi ar anghydraddoldebau iechyd a chysylltiadau gwerthfawr â chymunedau ar sut y gall gweithio gyda’n gilydd wella iechyd a lles y boblogaeth leol a lleihau’r anghydraddoldebau iechyd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Rachel Sanderson

Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd
Dechreuodd Rachel gyda’r tîm ym mis Gorffennaf 2024 ar secondiad fel Ymarferydd, gan weithio cyn hyn fel Uwch Ymarferydd yn y tîm Cymunedau ac Iechyd y Cyhoedd yng Nghyngor Dinas Bryste.
Mae hi wedi gweithio mewn rolau datblygu cymunedol sy’n canolbwyntio ar iechyd ers dros 15 mlynedd, gan ddechrau gyda Cymunedau yn Gyntaf fel Swyddog Iechyd, yna gweithio ar draws gogledd Bryste yn datblygu partneriaethau strategol a oedd â’r nod o bontio’r bwlch rhwng arferion datblygu cymunedol sy’n seiliedig ar asedau ac iechyd y cyhoedd.
Mae gan Rachel MA mewn Dylunio Trefol ac mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad o ymgysylltu â dinasyddion yn y broses o gynllunio a dylunio cymdogaethau, ynghyd â phrofiad o ddylunio cymdogaethau a mannau cyhoeddus. Mae Rachel hefyd yn Ymarferydd cofrestredig UKPHR ac yn asesydd ymarferol ar gyfer y cynllun. Mae Rachel yn angerddol dros weithio gyda chymunedau i leihau gordewdra a datblygu partneriaethau newydd lle manteisir ar angerdd a sgiliau pobl.

Rebecca Winslade-Rees

Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd
Penodwyd Rebecca yn Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer y Tîm Bwyd a Symud Da ym mis Mawrth 2021. Ar ôl y brifysgol, dechreuodd Rebecca ei gyrfa yn y GIG yn 2006 a gweithiodd mewn Gwasanaethau Maeth a Deieteg lleol yn benodol ar gyfer Anableddau Dysgu, Iechyd Meddwl ac Iechyd y Cyhoedd.
Ers 2012 mae Rebecca wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau Iechyd y Cyhoedd yn lleol ac yn genedlaethol. Mae gan Rebecca radd BSc (Anrh) mewn Maeth Dynol Cymhwysol. Mae gan Rebecca ddiddordeb arbennig yn y Blynyddoedd Cynnar a’r agenda Pwysau Iach.

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni